9. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:48, 14 Tachwedd 2017

Mae'r rheini sydd eisiau newid y cyfansoddiad—fe ddylen nhw fod wedi newid Deddf Cymru. Roeddech gennych chi gyfle yn Nhŷ'r Arglwyddi i newid Deddf Cymru i dynnu allan y gallu yma i Senedd Cymru gymeradwyo penodi Cwnsler Cyffredinol. Os ydych chi mor huawdl ac eisiau newid y cyfansoddiad, fe ddylech chi fod wedi ei wneud yn y lle arall, lle rŷch chi'n gwneud job arall. Mae'n amlwg nad oedd eich llygaid chi ar y cyfansoddiad bryd hynny. Oni bai eich bod chi eisiau gwneud hynny, nid ydych chi mewn sefyllfa i feirniadu rhywun am ddefnyddio technegau'r Senedd hon i gwestiynu penodiad gan y Llywodraeth. [Torri ar draws.] Ydych chi am ymyrryd?