Enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 15 Tachwedd 2017

Yr eitem gyntaf yw i enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, o ganlyniad i'r ffaith bod Cadair y pwyllgor hynny wedi dod yn wag. Ac rwyf felly yn gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F er mwyn ethol Cadeirydd newydd.

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y dylai’r Gadair barhau i fod wedi'i dyrannu i'r grŵp Llafur. Dim ond aelod o grŵp y blaid honno a all gael ei enwebu fel Cadeirydd, a dim ond aelod o’r grŵp hwnnw a gaiff wneud yr enwebiad. Gan fod y grŵp Llafur yn fwy nag 20 Aelod, mae'n rhaid i'r sawl a enwebir gael ei eilio gan Aelod arall yn yr un grŵp.

Rwy'n gwahodd enwebiadau, felly, ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf fi enwebu Mick Antoniw?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:31, 15 Tachwedd 2017

Galwaf am Aelod o'r un blaid i eilio'r enwebiad.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf fi eilio Mick Antoniw fel Cadeirydd?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch. A oes ragor o enwebiadau? Nac oes. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad? Nac oes. Rwyf felly yn datgan bod Mick Antoniw wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a phob dymuniad da yn y gwaith o'ch blaen.