Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Mae'r ystadegau ar anffurfio organau cenhedlu benywod yn gymhleth, ac ni cheir un pwynt data, sef rhywbeth rydym yn chwilio amdano ac y byddaf yn sôn amdano yn nes ymlaen, ond rydym yn gwybod, rhwng mis Hydref 2016 a mis Hydref 2017 ym Mwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro, fod 203 o fenywod yn byw gydag anffurfio organau cenhedlu benywod ac wedi bod yn gweld ymarferwyr iechyd. Mae data o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn dangos bod 123 o ddioddefwyr angen gofal meddygol o ganlyniad i anffurfio organau cenhedlu benywod, yn ogystal â 44 o blant a oedd mewn perygl o orfod dioddef anffurfio organau cenhedlu, ac amcangyfrifir bod 2,000 o fenywod yn byw gydag effeithiau anffurfio organau cenhedlu yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae pawb ohonom yn gwybod mai crafu'r wyneb yn unig yw hyn o ran niferoedd.
Rwy'n siŵr y gŵyr pawb yn y Siambr hon ei fod yn anghyfreithlon, ac mae wedi bod felly ers 32 mlynedd. Atgyfnerthwyd y gyfraith yn 2003 i atal merched rhag teithio dramor i gael eu hanffurfio yn y fath fodd. Ym mis Hydref 2015, cyflwynwyd dyletswydd adrodd orfodol i roi gwybod am unrhyw weithred o anffurfio organau cenehdlu mewn merched dan 18 oed. Ond rydym yn dal i fod yn ymladd i roi diwedd ar yr arfer. Er bod mwy o achosion yn cael eu cofnodi, ni chafwyd euogfarn lwyddiannus mewn mwy na 30 mlynedd.
Ond mae gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr anffurfio organau cenhedlu yn dweud na allwch newid diwylliant ag erlyniadau yn unig. Mae angen addysg; mae angen hyrwyddwyr cymunedol. Rhaid i'r boblogaeth ehangach yma sy'n credu nad yw'n digwydd yn eu milltir sgwâr fod yn ymwybodol o'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod hefyd. Yn ogystal ag athrawon, meddygon, yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol, rhaid inni addysgu cynorthwywyr addysgu, ymwelwyr iechyd, ysgrifenyddion ysgol, derbynyddion meddygfeydd a mwy. Rhaid siarad am anffurfio organau cenhedlu benywod yn eang ac mewn ffordd ddigyffro, yn yr un modd ag y siaradwn am beryglon iechyd ysmygu. Nid yw'n fater y dylem osgoi siarad amdano, ac roedd gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn am inni gael y ddadl hon heddiw, am inni fod yn agored a siarad am y materion hyn i gyd mewn ffordd agored a digyffro.
Wrth gwrs, gwn fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag anffurfio organau cenhedlu benywod, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 lle y caiff anffurfio organau cenhedlu benywod ei gynnwys fel ffurf ar drais ar sail rhywedd. Ar y pwynt hwn, hoffwn dalu teyrnged bersonol i Carl Sargeant, a fuasai, wrth gwrs, wedi bod yn ateb y ddadl hon, am ei ymrwymiad llwyr a'i waith i ddileu trais yn erbyn menywod, ac am gychwyn y ddeddfwriaeth hon. Gwelai anffurfio organau cenhedlu benywod fel rhan o'r broblem gyfan o drais yn erbyn menywod. Mae'n rhan gwbl annatod, gan ei fod yn ffurf ar drais ar sail rhywedd. Yn y Siambr hon, dywedodd Carl na ddylem ochel rhag mynd i'r afael â materion diwylliannol sensitif, fel anffurfio organau cenhedlu benywod, nad ydynt yn dderbyniol yn ein cymdeithas.
Felly, yn y cynnig hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn mewn ysgolion ac ymysg staff ac athrawon dan hyfforddiant, a chroesawaf y ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at bob pennaeth ym mis Gorffennaf i geisio eu cymorth i helpu i ddileu'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod. Mae gan athrawon rôl hanfodol i'w chwarae yn dod o hyd i achosion posibl lle y gallai merched fod mewn perygl o ddioddef anffurfio organau cenhedlu, yn enwedig pan fydd gwyliau ysgol ar y ffordd, gan fod merched yn aml yn cael eu hanfon i gael eu torri o dan gochl ymweld ag aelodau o'r teulu mewn gwledydd lle mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn arfer cyffredin.
Gwn nad yw'r cwricwlwm newydd wedi ei gyflwyno'n llawn eto, ond hoffwn weld bod mynd i'r afael ag anffurfio organau cenhedlu benywod fel rhan o'r cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas yn orfodol, nid yn ddewisol. Felly, nid wyf yn gwybod a fuasai'n bosibl, yn ymateb y Gweinidog, i Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu a fydd addysgu disgyblion am yr arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod yn rhan o faes iechyd a lles y cwricwlwm newydd sy'n cael ei ddatganoli yng Nghymru, oherwydd credaf fod dysgu am yr arfer yn hollbwysig fel rhan o gyfanwaith cyfan, a'i fod yn cael ei integreiddio'n rhan o'r maes iechyd a llesiant yn ei gyfanrwydd.
Hoffwn ofyn hefyd a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa bryd y mae disgwyl i adroddiad y panel arbenigwyr ar gydberthnasau iach gael ei gyhoeddi, ac a all egluro pa bryd y cyflawnir cynlluniau manwl o'r pynciau a gynhwysir yn y rhan hon o'r cwricwlwm. Ac o ran rhaglenni hyfforddi athrawon newydd, a wnewch chi gadarnhau a fydd anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei addysgu fel pwnc penodol?
Mae'r gwaith o addysgu pobl mewn cymunedau lle mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei arfer yn allweddol, a hoffwn dalu teyrnged i waith BAWSO, sy'n cynorthwyo menywod o leiafrifoedd du ac ethnig yr effeithir arnynt gan anffurfio organau cenhedlu benywod. Credaf fod aelodau o BAWSO wedi dod yma heddiw. Rwyf wedi bod yn ymwneud â BAWSO ers ei sefydlu yn 1995, ac maent yn gwneud llawer iawn o waith yn cynnig cefnogaeth i fenywod sydd wedi dioddef yn sgil yr arfer a chodi ymwybyddiaeth ohono. Ac mae'n gwbl hanfodol bod y gwaith yn cael ei wneud mewn cymunedau i gefnogi pobl ac i geisio cynnig addysg a dealltwriaeth yn y cymunedau lle y caiff hyn ei wneud.
Mae BAWSO wedi helpu i sefydlu fforwm anffurfio organau cenhedlu benywod Cymru, ac wedi codi ymwybyddiaeth mewn mwy nag 20 o gymunedau amrywiol yma yng Nghymru, ac mae dros 2,200 o weithwyr proffesiynol wedi cael hyfforddiant. Yn y saith mlynedd diwethaf, maent wedi ymgysylltu â 4,350 o bobl ac maent wedi cynnig cymorth un i un ac ymgysylltiad cymunedol. Mae BAWSO hefyd yn cynnal llinell gymorth 24 awr bwysig iawn mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod. Credaf na ddylem ochel rhag mynd i'r afael â'r mater gyda chymunedau. Credaf mai Carl a ddywedodd, pan siaradodd yma yn y Siambr, am y modd y mae'n rhaid i chi wynebu'r materion hyn sy'n sensitif yn ddiwylliannol, oherwydd fe allwch ei wneud a gallwch ei wneud mewn ffordd sy'n condemnio'r arfer heb gondemnio'r cymunedau, mewn ffordd sy'n ymdrechu i ddeall pam y mae pobl yn credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud a cheisio newid yr arfer.
Felly, teimlaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, oherwydd rydym yn ceisio agor y pwnc hwn i ddadl gyhoeddus yn ei gylch yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i ddangos ein bod yn cydnabod ei bod yn ddyletswydd arnom fel Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth yma yng Nghymru i gydnabod y niwed y mae'r arfer hwn yn ei wneud ac i wneud popeth yn ein gallu mewn modd mor sensitif â phosibl i sicrhau ei fod yn dod i ben. Felly, edrychaf ymlaen at glywed y siaradwyr eraill ar y mater hwn.