Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Hoffwn ddiolch i 'm cyd-Aelodau Jenny Rathbone, Joyce Watson, Jayne Bryant, Dai Lloyd, ac Angela Burns na all fod yma heddiw, am gefnogi'r ddadl hon heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i Jane Hutt am ei chefnogaeth ar y mater hwn.
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod—y broses o dorri neu anffurfio merched a menywod ifanc am resymau nad ydynt yn feddygol—yn ffurf eithafol ar wahaniaethu yn eu herbyn. Cyflawnir y weithred o anffurfio organau cenhedlu benywod yn bennaf ar ferched ifanc ar ryw adeg rhwng babandod a 15 oed. Mae'n achosi gwaedu difrifol a phroblemau iechyd, gan gynnwys systiau, heintiau, anffrwythlondeb yn ogystal â chymhlethdodau wrth eni plant a mwy o berygl o farwolaeth mewn babanod newydd-anedig.
Ceir pedwar categori o anffurfio organau cenhedlu benywod, sy'n amrywio o ran difrifoldeb, ac maent yn weithdrefnau niweidiol sy'n cael eu cyflawni at ddibenion nad ydynt yn feddygol. Mae 80 y cant o fenywod wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu math 1, sef tynnu'r clitoris naill ai'n rhannol neu yn llwyr, neu fath 2, sy'n cynnwys cael gwared ar y labia hefyd.