Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am fy ngalw i siarad. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Julie Morgan ac Aelodau eraill am gychwyn y ddadl bwysig hon. Credaf fod hwn yn fater polisi sy'n galw am ddull trawslywodraethol o weithredu, gydag amcanion cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn flaenllaw yn y camau gweithredu sy'n ofynnol. Felly, ochr yn ochr â Julie Morgan, croesewais y camau a gymerwyd ym mis Gorffennaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a ysgrifennodd at bob ysgol yng Nghymru i dynnu sylw at y rôl bwysig y gallant ei chwarae drwy adnabod dioddefwyr posibl a'u diogelu rhag anffurfio organau cenhedlu benywod.
Mae'r NSPCC yn nodi rhai arwyddion rhybudd posibl mewn merch sydd wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu, megis methu croesi ei choesau pan fydd yn eistedd ar lawr, bod mewn poen neu afael yn ei chorff, a mynd i'r toiled yn amlach na'r arfer a threulio mwy o amser yno. Ond weithiau, ni cheir arwyddion amlwg gan y gallai merch ifanc gael ei dwyn dramor dros wyliau haf a wynebu anffurfio organau cenhedlu benywod—fel y gwelsom ar y ffilm—er mwyn iddi wella cyn tymor yr Hydref. Gelwir y tymor hwn yn 'dymor torri'.
Mae'r arfer hwn yn cadw'r weithred o anffurfio organau cenhedlu benywod yn gudd ac o dan y radar. Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi gofyn i ysgolion fod yn ymwybodol o hyn. Credaf y byddai'n ddefnyddiol gwybod mwy am waith dilynol a gwaith gan Ysgrifennydd y Cabinet i fonitro ei chamau i gynnwys ysgolion, yn enwedig o ran sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant a'r adnoddau angenrheidiol i'w helpu i gynorthwyo i fynd i'r afael â'r mater sensitif hwn yn effeithiol ac yn hyderus. Mae ymateb trawslywodraethol i anffurfio organau cenhedlu benywod yn hanfodol, ond os ydym yn mynd i drechu'r gamdriniaeth annerbyniol hon yn erbyn menywod a merched, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cydnabod rôl y trydydd sector, yn enwedig y rheini sydd â thystiolaeth, sgiliau, dealltwriaeth ddiwylliannol a phrofiad i ymateb yn briodol. Mae BAWSO, fel y mae pawb ohonom wedi clywed, yn sefydliad ar gyfer Cymru gyfan sydd wedi bod yn cefnogi teuluoedd duon a lleiafrifoedd ethnig yr effeithiwyd arnynt gan anffurfio organau cenhedlu benywod ers dros 20 mlynedd.
Yn 2010—fel y mae Julie Morgan a Jenny Rathbone eisoes wedi nodi—sefydlwyd y fforwm cymunedol anffurfio organau cenhedlu benywod ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro gydag aelodaeth ehangach, gan gynnwys yr NSPCC a Cymorth i Fenywod Cymru. Mae gwaith y fforwm yn cynnwys cynnal arolygon o ymarferwyr i ganfod lefel eu gwybodaeth am anffurfio organau cenhedlu benywod yn ogystal â'u hyder i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr, ac mae'r fforwm hefyd wedi bod yn flaenllaw yn yr ymgyrch hon dros glinig anffurfio organau cenhedlu benywod, fel y dywedodd Jenny Rathbone—cam da ymlaen, ac mae i fod i agor cyn bo hir, yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Ond rydym wedi gweithio'n agos â BAWSO ac yn gwybod mai eu nod yw cryfhau cymunedau i gymryd perchnogaeth ar fater anffurfio organau cenhedlu benywod, fel y dywedodd Julie Morgan, drwy ymgyrchoedd ymwybyddiaeth addysg, er mwyn mynd i'r afael â'r math gwarthus hwn o gamdriniaeth a'i ddileu. Mae codi ymwybyddiaeth yn allweddol. Mae'r wal o ddistawrwydd a chyfrinachedd sy'n amgylchynu'r pwnc yn cadw dioddefwyr ynghudd ac yn caniatáu i'r ffurf ddinistriol hon ar gamdriniaeth i ffynnu—a chamdriniaeth yw hi, gyda miliynau o fenywod wedi cael eu heffeithio ar draws 30 o wledydd ledled y byd. Bydd llawer ohonom wedi gweld y rhaglen ar BBC Two yr wythnos diwethaf gyda Kate Humble yn edrych ar dde-orllewin Kenya, lle mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn anghyfreithlon ond yn dal i fod wedi ei wreiddio'n ddwfn yn y diwylliant lleol. Gwelsom ymgyrchwyr lleol fel Susan, un sydd wedi goroesi'r arfer o anffurfio organau cenhedlu, a Patrick, dyn ifanc o'r gymuned, sy'n gweithio'n ddiflino yng nghymuned wledig Kuria i godi ymwybyddiaeth ac achub merched a menywod ifanc.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel rhywbeth sy'n ymyrryd â hawliau dynol merched a menywod. Mae'n adlewyrchu anghydraddoldeb dwfn rhwng y ddau ryw, ac yn ffurf eithafol ar wahaniaethu yn erbyn menywod. Mae'n cael ei gyflawni bron bob amser ar bobl ifanc nad ydynt yn oedolion ac mae'n drosedd yn erbyn hawliau plant.
Er mwyn ei ddatgelu, rhaid i ni siarad amdano, rhaid inni gael ymateb trawslywodraethol a rhaid inni ymgysylltu â'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen. Am y rheswm hwnnw rwy'n croesawu'r ddadl hon. Rhaid inni gael ein harwain gan y rhai ar y rheng flaen, fel BAWSO, a rhaid inni sicrhau bod yr arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru a'r holl gyrff statudol yma yng Nghymru.