8. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod — Gohiriwyd o 8 Tachwedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:05, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw â theyrnged fer iawn i fy nghyd-Aelod a'm cyfaill, y diweddar Carl Sargeant. Rydym i gyd yn gwybod bod Carl mor ymrwymedig i drechu'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod ag ydoedd i drechu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gyfan. Fel y dywedodd Julie Morgan eisoes, roedd yn ystyried bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn enghraifft glir iawn o gam-drin plant yn ogystal â mater yn ymwneud â phŵer a rheolaeth dros fenywod a merched. Roedd yn angerddol ynglŷn â chael pobl i siarad am y mater hwn a'i dynnu o'r cysgodion, yn ogystal â cheisio lleihau nifer yr achosion o'r arfer.

Sefydlodd grwpiau a fforymau ar gyfer trafod a gwneud penderfyniadau yng Nghymru fel roedd angen inni wneud er mwyn rhoi sylw o ddifrif i anffurfio organau cenhedlu benywod a rhoi camau ar waith mewn partneriaeth. Sefydlodd grŵp arweinyddiaeth strategol cenedlaethol ar anffurfio organau cenhedlu benywod ymhell cyn i eraill o gwmpas y DU gael strwythurau o'r fath. Roedd hyn yn caniatáu i brosiectau a mentrau gael eu cyflwyno, fel prosiect NSPCC/BAWSO, Llais nid Tawelwch, gan weithio gyda menywod ifanc i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar fater anffurfio organau cenhedlu benywod. Derbyniodd y prosiect wobr bydwreigiaeth genedlaethol ledled y DU ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi gweithwyr proffesiynol ledled Cymru, yn ogystal â chael ei addysgu mewn ysgolion drwy'r Rhaglen Sbectrwm.

Roedd Carl yn awyddus iawn hefyd i sicrhau bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn elfen allweddol yn yr hyn a ddaeth yn y pen draw yn Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Roedd yn benderfynol fod yn rhaid i hyn ddigwydd os oedd y ddeddfwriaeth yn mynd i adlewyrchu'r holl gymunedau yng Nghymru, ac fe wnaeth hyn gan wybod yn iawn nad oedd rhai pobl am glywed amdano. Ni wnaeth ochel rhag pynciau anodd ar unrhyw adeg ond aeth benben â hwy yn ei ffordd ddihafal ei hun, gydag addfwynder, cynhesrwydd a hiwmor. Gosododd Carl yr holl sylfeini ar gyfer y gwaith rwyf am ei amlinellu ar anffurfio organau cenhedlu benywod, ac mae'n rhan fawr o'i etifeddiaeth barhaol.

Hoffwn ddiolch hefyd i Julie Morgan a holl Aelodau'r Cynulliad sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar yr arfer gwarthus o anffurfio organau cenhedlu benywod. Mae'r rhwydwaith Ewropeaidd sy'n galw am roi diwedd ar anffurfio organau cenhedlu benywod yn dweud bod yr arfer yn amddifadu menywod a merched o'r hawl i gyfanrwydd corfforol a meddyliol, i ryddid rhag trais, i'r safon uchaf bosibl o iechyd, i ryddid rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd ac i ryddid rhag poenydio, a thriniaeth greulon, annynol a diraddiol. Credaf fod pawb ohonom yn adleisio'r datganiad hwnnw'n gryf.

Cydnabyddir yn rhyngwladol fod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ymyrryd â hawliau dynol menywod a merched, ac wedi ei gyfeirio at fenywod a merched yn unig oherwydd eu rhyw. Yn 2011, roedd tua 170,000 o ferched a menywod yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod yn y DU. Amcangyfrifir bod tua 140 o ddioddefwyr yn dioddef yr arfer bob blwyddyn yng Nghymru. Rwy'n gwylio cynnydd achos sydd ar y gweill yn Woolwich, yr ail achos o'i fath yn unig yn y DU o dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003. Nid yw cyfiawnder troseddol wedi ei ddatganoli, fel y gwyddoch, ond mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu cymdeithas na fydd yn goddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig na thrais rhywiol, ac mae hyn yn cynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod. Byddwn yn gwneud hyn drwy addysgu ein plant a'n pobl ifanc ynglŷn â chydberthnasau iach a chydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ar draws y boblogaeth gyfan. Mae hyn yn golygu nid yn unig fod rhaid hyfforddi gweithwyr proffesiynol i adnabod achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod a'r rhai sydd mewn perygl, ond hefyd ein bod yn gweithio gyda chymunedau ac mewn cymunedau sy'n cyflawni'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod er mwyn ei ddileu'n gyfan gwbl.

Mae rhoi cymorth i'r rhai yr effeithir arnynt gan anffurfio organau cenhedlu yn hollbwysig. Mae ein gwefan Byw Heb Ofn yn adnodd cynhwysfawr ar gyfer dioddefwyr a'u teuluoedd. Mae'n rhoi gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael a ble i fynd am help. Mae'r wefan yn cefnogi gwaith y llinell gymorth drwy ddarparu cyngor a chyfeirio. Rydym yn ariannu'r llinell gymorth yn llawn, a chaiff ei rhedeg dan gontract gan Cymorth i Fenywod Cymru. Caiff pobl sy'n ffonio'r llinell gymorth eu cyfeirio at wasanaethau lleol priodol, ac rydym yn parhau i ariannu awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu cyngor a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr.

Ac wrth gwrs, mae rhan fawr o'n gwaith yn canolbwyntio ar atal. Mae hyn yn digwydd mewn dwy brif ffordd: codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ac addysgu ein plant a'n pobl ifanc. Fel y mae nifer o'r Aelodau wedi nodi, rhaid gosod dileu'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod yn gadarn yng nghyd-destun dileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd parhaus yn allweddol i godi ymwybyddiaeth, herio stereoteipiau, a herio a newid agweddau ac ymddygiad annerbyniol.