Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Er gwaethaf y gwaith sylweddol yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf, gwyddom fod llawer o bobl yn dal i fod mewn perygl o ddioddef, neu yn dioddef trais a cham-drin. Fel rhan o'n dull hirdymor o godi ymwybyddiaeth a newid agweddau, rydym yn datblygu ein fframwaith cyfathrebu cenedlaethol. Nod hwn yw sicrhau negeseuon clir, cydgysylltiedig a chyson ar draws Cymru. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid eraill, yn ogystal â'r Swyddfa Gartref ac asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Drwy gydweithio ar draws meysydd datganoledig a heb eu datganoli, gallwn weithio i gyflawni ein nodau cyffredin.
Fel rhan o helpu i atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, rhaid inni ganolbwyntio ar ddysgu plant i wneud yn siŵr eu bod yn deall bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn drosedd ac yn tramgwyddo yn erbyn hawliau dynol. Fel y mae llawer o'r Aelodau wedi dweud, ym mis Medi eleni, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gynllun gweithredu newydd y Llywodraeth, 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl'. Mae'r cynllun gweithredu yn nodi sut y bydd y system ysgolion yn symud ymlaen dros y cyfnod 2017-21, gan sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu gyda ffocws ar arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol, rhagoriaeth a thegwch mewn system hunanwella.
Bydd y cwricwlwm newydd drafft ar gael i ysgolion a lleoliadau ym mis Ebrill 2019 ar gyfer adborth a bydd y cwricwlwm newydd terfynol ar gael erbyn mis Ionawr 2020. Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn gyntaf i bob ysgol gynradd a blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd ym mis Medi 2022, a byddwn wedyn yn ei gyflwyno o un flwyddyn i'r llall mewn ysgolion uwchradd o'r pwynt hwn. Rwy'n tynnu sylw at hyn am ein bod yn gwybod bod gwasanaethau addysg ac ysgolion yn arbennig mewn sefyllfa dda i sylwi ar arwyddion o gam-drin, ac mae nifer o'r Aelodau wedi nodi hyn. Maent yn adnabod eu plant yn well na'r holl wasanaethau eraill ac maent mewn sefyllfa dda i adnabod yr arwyddion rhybudd ac i ymyrryd yn gynnar. O ystyried eu rôl ganolog, byddwn yn ysgrifennu at ysgolion bob blwyddyn i'w hatgoffa o'r risg i ferched yn ystod gwyliau'r haf a sicrhau eu bod yn gwybod sut i gael help a chymorth.
Byddwn hefyd yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn addysgu plant am gydberthynas iach, cam-drin a'i ganlyniadau a ble i ofyn am gymorth. Rydym hefyd yn ariannu prosiect Plant yn Cyfri Cymorth i Fenywod Cymru i gefnogi elfen atal y Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r prosiect hwn yn cynorthwyo gwasanaethau lleol ledled Cymru i herio anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a brofir gan blant a phobl ifanc ac i wella diogelwch.
Rydym yn glir yn ein nod i wella atal, amddiffyn a chymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, fel y nodir yn y Ddeddf ac yn ein strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd. Mae'r strategaeth yn mynegi ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae'n nodi'r amcanion a fydd, pan gânt eu cyflawni, yn ein helpu i gyflawni dibenion y Ddeddf.
Wrth ddatblygu'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, rydym wedi nodi ein gofynion ar gyfer hyfforddiant ar y pynciau hyn ar draws gwasanaethau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae'r fframwaith hefyd yn cynnwys maes llafur pwnc arbenigol, a fydd yn sicrhau bod unrhyw hyfforddiant a gaiff unrhyw broffesiwn yn lleol yn bodloni'r deilliannau dysgu a bod modd eu hasesu'n briodol a'i fod yn gyson â hyfforddiant arall a ddarperir ledled Cymru.
Mae 'Deall anffurfio organau cenhedlu benywod' yn un o'r cyrsiau hyfforddi yn y maes llafur arbenigol. Mae'r cwrs yn cynnwys cyfraith a pholisi cyfredol sy'n ymwneud ag anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru a'r DU, gan gynnwys Deddf Troseddau Difrifol 2015. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn datblygu proses 'holi a gweithredu', a fydd yn cael ei chyflwyno ar draws y sector cyhoeddus ac yn helpu gweithwyr proffesiynol i adnabod arwyddion o gam-drin a thrais, ac mae 1,200 o weithwyr bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac awdurdodau lleol de-ddwyrain Cymru wedi cael eu hyfforddi i 'holi a gweithredu'. Ceir 98 o hyrwyddwyr 'holi a gweithredu' yn ne-ddwyrain Cymru a bydd y cynllun peilot hwn yn darparu model clir ar gyfer 'holi a gweithredu', i'w gyflwyno ymhellach dros weddill 2017.
Ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, mae llwybr gofal anffurfio organau cenhedlu benywod Cymru'n hyrwyddo atgyfeirio unrhyw fenyw yr effeithiwyd arni yn sgil anffurfio organau cenhedlu at wasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol neu ddarpariaeth trydydd sector. Penodwyd arweinwyr diogelu ar gyfer anffurfio organau cenhedlu benywod ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Datblygwyd proses gasglu data; mae data a gesglir yn fisol ar fenywod a merched y nodwyd eu bod yn dioddef yn sgil anffurfio organau cenhedlu yn cael ei gasglu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r gwasanaethau mamolaeth. Cyfeirir unrhyw fabanod benywaidd a enir i fenywod sydd wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu i'r gwasanaethau cymdeithasol fel mater o drefn er mwyn sicrhau ymyrraeth amddiffynnol. Hyd yma, nodwyd bod tua 10 o fenywod bob chwarter wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu ac rydym yn ystyried cyhoeddi gwybodaeth ar anffurfio organau cenhedlu benywod fel mater o drefn, gwybodaeth sy'n cael ei chasglu ar hyn o bryd.
Yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod. Mae'r diwrnod hwn yn bwysig i'n hatgoffa bod llawer o waith i'w wneud o hyd i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched a sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwyf am ddweud y bydd gennyf gryn dipyn o ddiddordeb personol yn y maes hwn a byddaf yn croesawu'n fawr pe bai pawb yn y Cynulliad hwn sydd ag unrhyw syniad bethau eraill y gallwn eu gwneud yn dod i gysylltiad. Yn sicr byddaf yn bwrw ymlaen â'r dull trawslywodraethol a argymhellwyd yn fawr. Fel y nododd Julie Morgan, mae angen inni wneud yn siŵr hefyd nad ydym yn condemnio'r cymunedau y mae hyn wedi'i wreiddio ynddynt, er ein bod yn condemnio'r drosedd, y weithred a'r trais, a'n bod yn gwneud llawer i'w helpu i ddod i delerau â'u sefyllfa ac yn datblygu hefyd.
Rydym yn parhau i fod yn frwd iawn ac yn gwbl ymroddedig i barhau i atal trais a cham-drin ac i amddiffyn a chefnogi'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr arferion erchyll hyn. Diolch.