Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Beth yw anffurfio organau cenhedlu benywod?
Cefais fy nhorri pan oeddwn yn saith.
Roeddwn yn 13 mlwydd oed.
Roeddwn yn 16 pan gefais fy nhorri.
Cafodd ei wneud yn ystod gwyliau'r ysgol.
Roeddwn i'n naw oed.
Roedd 20 ohonom a fi oedd yr hynaf, ac roedd yr ieuengaf yn ddwy, a bu hi farw'n ddiweddarach.
Roedd yn rhan o'n diwylliant; roedd yn rhan o'r hyn ydym ni.
Roeddwn i mor llawn o gyffro, wyddoch chi.
I chi ddod allan fel tywysoges.
Roedd yna lawer o ddawnsio.
Cawsom ddawnsio.
Canu.
Roedd yn barti mawr iawn.
Am fy mod i mor ifanc, nid oeddwn yn deall beth oedd yn mynd i ddigwydd i mi.
Wedyn daeth yn amser i mi fynd i mewn i'r ystafell nesaf.
Rhoddodd dynes fwgwd am fy llygaid.
Cefais fy nhaflu i'r llawr.
Roeddwn yn ysgwyd.
Agorodd menywod fy nghoesau a fy ngwasgu i lawr gerfydd fy ysgwyddau.
A llenwais bob rhan o fy mrest.
Ni allwn anadlu; ni allwn symud.
Eisteddodd y ddynes arnaf a theimlais doriad siarp iawn rhwng fy nghoesau. Roedd e mor boenus.
Pan ddechreuon nhw dorri, sgrechiais mor uchel nes i'r menywod fy ngagio i fy atal rhag sgrechian.
Nid oes gennyf unrhyw eiriau i esbonio.
Y poen a deimlais y diwrnod hwnnw.
Wrth y pwll o waed, dyna lle y cafodd pob merch ei thorri.
Gallaf ddal i'w deimlo bob tro y byddaf yn meddwl amdano.
Fe ddefnyddion nhw'r un llafn ar bob un ohonom.
Roedd fy modryb yn un a oedd yn torri.
Y menywod—rydych chi'n gweld llawenydd ar eu hwynebau o wybod eich bod yn fenyw bellach.