Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Gwaethygwyd y sefyllfa lawer iawn gyda derbyn aelod-wladwriaethau o ddwyrain Ewrop i'r UE. Yn aml, roedd amcangyfrifon o'r niferoedd tebygol y disgwylid iddynt ddod i'r DU yn cael eu datgan mewn degau o filoedd. Mae'r rhain wedi bod yn gwbl annigonol. Erbyn hyn mae gennym fwy na 4 miliwn o ddwyrain Ewrop yn y DU. Ffigurau swyddogol yw'r rhain ac maent yn cuddio nifer enfawr o fewnfudwyr anghyfreithlon sydd, am eu bod yn anhysbys i'r awdurdodau, yn agored i'r math gwaethaf o gamfanteisio.
Dywedais fod y gangiau troseddol wedi dod yn soffistigedig iawn yn eu gweithredoedd. Gwelir rhai enghreifftiau sy'n tystio i hyn yn y ffaith y byddant yn mynd â'u dioddefwyr i ganghennau o fanciau gwahanol yn yr ardal gyfagos a rhoi dogfennau ffug iddynt agor cyfrifon, pethau fel biliau cyfleustodau, pasbortau a dogfennau adnabod. Yna maent yn rhoi cyfeiriad cartref y gangfeistr ar gyfer darparu gohebiaeth cyfrif gan esgus y gall y gweithiwr mudol hawlio budd-daliadau a chwilio am waith yn sgil hynny. Mae hyn yn caniatáu i'r gangiau ddwyn hunaniaeth y dioddefwr a chael rhifau adnabod personol ac ati. Byddant yn agor rhes o'r cyfrifon hyn a bydd ganddynt reolaeth lwyr drostynt. Yna byddant yn eu defnyddio i wyngalchu arian, i gael benthyciadau ac ati.
Mae'r gangiau'n rheoli niferoedd enfawr o'r mudwyr hyn, naill ai drwy eu masnachu i mewn i'r wlad eu hunain, gan helpu newydd-ddyfodiaid gyda benthyciadau bach a llenwi ffurflenni ac ati. Mae llawer o'r rhai nad ydynt yn siarad yr iaith yn ystyried bod hyn yn ddefnyddiol tu hwnt, ac felly'n mynd i afael y gangiau troseddol yn hawdd. Hefyd, wrth gwrs, ceir addewid o swyddi. Bydd y gangiau'n dod yn asiantau gwaith i'r mudwyr, ond ni fydd y swyddi a roddir, gyda'r didyniadau'n cael eu cymryd gan y gangiau am bethau fel llety, trafnidiaeth ac ati, yn talu digon i ad-dalu'r benthyciadau. A bydd y bobl anffodus hyn yn mynd ar y llyfrau dyled dychrynllyd a gedwir gan y gangfeistri. O hynny ymlaen, dônt yn gaethweision i bob pwrpas, gan weithio'n unig i dalu am eu cadw a'u dyledion.
Mae menywod sy'n disgyn i fagl y ddyled wneud hon fel arfer yn cael dau opsiwn: teithio i India neu Bacistan i gymryd rhan mewn priodas ffug y telir mwy na £1,500 i'r gangfeistri amdani, neu eu rhoi i weithio fel puteiniaid. Ceir llawer o dystiolaeth hefyd o enghreifftiau llawer mwy arswydus o gamfanteisio ar fudwyr lle mae organau i'w trawsblannu yn cael eu cynaeafu fel ffordd o ad-dalu dyledion.
Yr hyn sydd wedi dod yn gynyddol amlwg o fy ymchwil i'r pwnc hwn yw'r rhagrith dwfn sydd wrth wraidd y rhethreg a ddefnyddir, yn enwedig gan bobl sy'n honni eu bod yn malio am y dosbarthiadau gweithiol. Gadewch inni fod yn glir yma: y dosbarthiadau gweithiol bron yn ddieithriad sy'n cael eu hecsbloetio yn y ffordd hon, eto mae'r adain chwith wleidyddol yn datgan yn barhaus fod mewnfudo torfol, direolaeth nid yn unig yn ddymunol, ond yn hanfodol i'r economi, a bod ffiniau agored yn cael effaith gadarnhaol ar y DU. Mae'r rhethreg hon yn anwybyddu gwir realiti mewnfudo torfol yn llwyr a'r dioddefaint y mae'n ei achosi i filoedd o weithwyr mudol yn ei sgil. Mae'n hybu model busnes sy'n dibynnu ar drosiant cyson o weithwyr i gyflawni swyddi ansicr am gyflogau bach ar y gorau, ond sydd yn rhy aml yn fudr, yn beryglus ac yn ddiraddiol yn ogystal. Mae'r senario hon yn galw nid yn unig am fewnfudo torfol, ond am fewnfudo torfol diddiwedd, gan mai rhai sydd newydd gyrraedd yn unig, y rhai diobaith ac agored i niwed, sy'n gallu cyflenwi'r porthiant ar gyfer camfanteisio parhaus. Gan mai busnesau mawr sydd fel arfer yn cyflawni'r camfanteisio hwn, yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon, mae'n anghredadwy fod y Blaid Lafur yn dal i hyrwyddo polisi drws agored ar fewnfudo.
Nid yw'r olygfa a ddigwyddodd yn yr orsaf betrol BP bob dydd yn ymwneud yn syml â mewnfudo'n unig neu gost ddynol nwyddau rhad, neu hyd yn oed ychydig o weithredwyr twyllodrus ar eu pen eu hunain. Mae'n amlygu newid cymdeithasol ac economaidd mawr sydd wedi digwydd mewn ychydig dros ddau ddegawd, ac sy'n ganlyniad uniongyrchol i fewnfudo direolaeth.
Yma, mae gennyf dystiolaeth ddogfennol ac euogfarnau rhai sy'n cymryd rhan mewn camfanteisio ar fudwyr ar gyfer y fasnach ryw. Mae'r rhain, o The Guardian a'r BBC, yn disgrifio enghreifftiau ofnadwy. Yr hyn y mae'r cewri cyfryngol hyn yn methu ei wneud yw nodi gwraidd y problemau hyn. Mae mewnfudo torfol a cholli rheolaeth ffiniau'n golygu nad oes neb yn gwybod pwy neu sut y daw pobl i'r wlad hon. Mae rhai'n dadlau na fydd mesurau rheoli o'r fath yn dileu'r broblem. Gwelir nad oes unrhyw sylwedd i'w dadl. Prin fod y math hwn o gamfanteisio'n bodoli cyn agor ein ffiniau, ac roedd fel arfer yn nwylo rhwydwaith bach, lleol, tanddaearol. Bellach mae'n weithgarwch rhyngwladol enfawr a reolir gan gangiau amlwladol sy'n gwneud cannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn o'r trallod dynol hwn.
Yn yr ychydig achosion lle mae'r heddlu wedi cael llwyddiant yn erlyn y gangiau troseddol hyn, efallai y gallwn oedi i ystyried beth yw cost yr erlyniadau hyn. Mae costau cyfieithu yn ein llysoedd bellach wedi cyrraedd lefelau syfrdanol. Dywedir bod nifer anghymesur o fudwyr yn ein carchardai bellach. Pe bai tuedd gwladolion a aned dramor i droseddu, yn seiliedig ar eu cynrychiolaeth yn ein carchardai, yn cael ei hadlewyrchu yn y boblogaeth frodorol yn gyffredinol, cyfrifwyd y byddai'r niferoedd yn ein carchardai yn agos at 120,000, nid y 84,000 sydd gennym yn awr. A gadewch inni beidio ag anghofio bod yna dystiolaeth gref sy'n dangos bod troseddu gan leiafrifoedd ethnig yn cael ei anwybyddu'n aml gan awdurdodau. Hefyd gallwn atgoffa ein hunain mai'r system garchar yw'r cam olaf yn y system gyfiawnder, ac ni fydd ond yn digwydd yn achos troseddau difrifol neu luosog. Afraid dweud yr ymdrinnir â'r rhan fwyaf o droseddau drwy ddedfrydau nad ydynt yn carcharu: pethau fel dedfrydau cymunedol, tagio electronig, ac ati. Felly, rhaid inni ychwanegu costau monitro'r ymyriadau hyn at gostau troseddau pobl nad ydynt yn ddinasyddion y DU, sydd eto'n gost enfawr i'r pwrs cyhoeddus.
Unwaith eto, nid yw hyn yn cynnwys y symiau enfawr o arian sy'n gadael y DU, yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon, gan weithwyr mudol a gangiau troseddol sy'n camfanteisio arnynt. Tybed a oes unrhyw un o'r ffactorau hyn yn cael eu hystyried wrth gyfrifo manteision economaidd mewnfudo torfol—rwy'n amau hynny'n fawr iawn. A nodwch, nid wyf wedi crybwyll budd-daliadau.
Er bod yr heddlu wedi cael peth llwyddiant yn erlyn y gangiau troseddol hyn, un ffordd sydd yna o roi diwedd ar y camfanteisio gwarthus hwn ar ein cyd-ddyn, a rhoi diwedd ar fewnfudo torfol yw honno, cymryd rheolaeth ar ein ffiniau, ymdrin yn ffafriol â'r bobl sydd eisoes yma ac y camfanteisir arnynt, a chael ymgyrch gynhwysfawr yn erbyn y rhai sy'n camfanteisio yn y fath fodd, gyda chosbau llym, gan gynnwys alltudio awtomatig i'r rhai sy'n cymryd rhan. Felly, waeth beth fo sylwadau'r Prif Weinidog, os yw hyn yn rhoi ychydig geiniogau ar gost bwyd ar fy mhlat, yn bersonol, rwy'n barod i'w talu.