Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Yn y cyfarfod llawn, ychydig ddyddiau cyn y toriad, dywedodd y Prif Weinidog y byddai gadael Ewrop yn codi cost bwyd i ni yng Nghymru. Wel, y tro nesaf y byddwch yn torri'r bresych ar gyfer cinio dydd Sul, neu'n torri'r moron, efallai y dylech ystyried y gost ddynol o roi'r rhain a llawer o gynhyrchion eraill ar eich bwrdd.
Rwyf am i chi feddwl am olygfa mewn gorsaf betrol BP. Mae'n 4.00 a.m. ar fore oer o Ionawr, a'r awyr yn dal yn ddu, ond mae gweithiwr y garej wedi bod yn gwasanaethu gweithwyr mudol ers awr neu fwy. Erbyn 4.15 a.m., mae'r ffigurau tawel o'r ochr arall i'r dref wedi tyfu'n llif cyson. Ar ôl cael eu galw drwy neges destun y noson cynt, maent yn ymgasglu ar y blaengwrt i aros am res o gerbydau a fydd yn mynd â hwy i'r ffatrïoedd neu'r caeau o amgylch yr ardal, lle byddant yn cael eu rhoi i weithio am 10 i 12 awr.
Mae swyddog heddlu benywaidd yn gwylio o'i swyddfa yn yr orsaf heddlu, sydd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn edrych dros yr orsaf betrol. Cafodd ei symud i'r orsaf hon am ei bod hi'n arbenigo ar droseddu cyfundrefnol. Mae hi wedi gweld yr un olygfa'n digwydd yn rheolaidd dros y misoedd diwethaf. Mae hi'n adnabod hyn fel gweithgaredd sy'n cael ei arwain gan gangiau troseddol, ond mae'n ddi-rym i'w atal. Mae'r dulliau soffistigedig a ddefnyddir gan gangiau troseddol modern yn gwneud erlyn yn anodd iawn. Mae hi bron yn amhosibl recriwtio dioddefwyr fel tystion, gan eu bod yn llawer rhy ofnus i roi tystiolaeth yn erbyn y gangfeistri hyn. Mae'n eithaf dealladwy o gofio bod yr ardal leol wedi gweld llu o hunanladdiadau ymddangosiadol ymhlith pobl ifanc o ddwyrain Ewrop dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Canfuwyd tri yn hongian, a chydag un, roedd neges wedi ei gadael ar wal gerllaw—o'i chyfieithu, roedd hi'n dweud, 'ni all y meirw dystio'.
Nid y rhain o bell ffordd oedd yr unig farwolaethau ymhlith y gymuned leol o bobl o ddwyrain Ewrop. Darganfuwyd olion merch 17 oed o Lithwania bum mis ar ôl ei diflaniad. Cafodd cludwr Lithwaniaidd ei losgi i farwolaeth wrth iddo gysgu yn ei fan, a hyn oll mewn ardal heb fawr ddim llofruddiaethau ddegawd yn ôl.
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol o'r bydysawd cyfochrog creulon hwn sy'n aml yn sail i'n heconomi brif ffrwd, ond ceir ardaloedd o'r wlad lle mae'n weladwy iawn. Mewn arolwg yn 2017, pleidleisiodd yr etholaeth seneddol lle y digwyddodd yr olygfa a ddisgrifir uchod yn frwd dros ailddatgan eu dymuniad i adael yr UE, gan gydnabod bod mewnfudo ar raddfa fawr o ddwyrain Ewrop yn newid eu cymuned yn sylfaenol.
Felly, os yw'r heddlu'n ymwybodol o'r gweithredoedd hyn, pam nad ydym yn gweld erlyniadau ar raddfa fawr? Wel, mae dau brif reswm: soffistigeiddrwydd gweithredoedd y gangiau a maint y broblem. Yn syml iawn, nid oes gan yr heddlu ddigon o weithlu i ymdopi gyda'r ffrwydrad enfawr yn y camfanteisio ar weithwyr mudol yn bennaf a ddigwyddodd dros y degawd diwethaf, a hynny bron yn gyfan gwbl oherwydd y polisi ffiniau agored.