Athrawon Cyflenwi

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:36, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Vikki. Mae’r ymateb rydym wedi’i gael gan ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n rhan o'r clwstwr £2.7 miliwn wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Mae trefniadau ar waith i fonitro a gwerthuso'r fenter hon yn fanwl, gan gynnwys comisiynu prosiect ymchwil ffurfiol, sy’n annibynnol ar y Llywodraeth, fel y gallwn ganfod yr effaith y mae'r cynllun peilot hwn wedi'i chael. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn edrych ar yr effaith ar blant yn enwedig, a safonau yn ein hysgolion, yn ogystal â thelerau cyflogaeth athrawon unigol. Yr hyn a fydd hefyd yn bwysig iawn o'r peilot hwnnw fydd ei fod yn rhoi tystiolaeth inni ynglŷn ag a fydd hwn yn opsiwn ymarferol i’w gyflwyno ar draws y system, ac nid yn unig ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yn yr ardaloedd peilot.