Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, dywedir wrthyf nad New Directions yw'r opsiwn rhataf ar gyfer athrawon cyflenwi yng Nghymru, ond hwy yw'r asiantaeth a ffafrir. Gwnaed y cyhuddiadau canlynol ynglŷn â rhoddion y dywedir bod New Directions wedi eu defnyddio. Nid oes gennyf unrhyw farn ynglŷn ag uniondeb na gwirionedd y cyhuddiadau hyn, ond maent wedi cael eu gwneud. Honnwyd wrthyf fod New Directions yn darparu tocynnau am ddim i ddigwyddiadau chwaraeon, diwrnodau golff meddwol am ddim, a dillad pêl-droed i ysgolion, yn ôl y sôn er mwyn sicrhau rhagor o fusnes. A wnewch chi ymchwilio i'r honiadau hyn ac adrodd yn ôl i'r Siambr?