Athrawon Cyflenwi

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:31, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Leanne. Nid yw'r cyfrifoldeb dros dâl ac amodau athrawon wedi'i drosglwyddo i Gymru. Ond gwn, o drafodaethau blaenorol dros y blynyddoedd diwethaf, fod y ddau ohonom yn cytuno y byddwn yn croesawu hynny’n fawr. Ar 24 Hydref, nodais sut rydym yn gweithio i gynorthwyo ein hathrawon dros dro. Mae hyn yn cynnwys darparu £2.7 miliwn o gyllid i gefnogi trefniadau amgen ar gyfer cyflenwi clystyrau ar sail ysgolion, a chwmpasu cofrestr ganolog gyfatebol.