Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi derbyn llawer o sylwadau gan athrawon cyflenwi, ac mae'n amlwg fod y system sy'n bodoli ar hyn o bryd yn afreolaidd, yn anhrefnus ac yn ecsbloetiol. Mae asiantaethau yn gostwng cyfraddau talu i’r fath raddau fel bod un athro cyflenwi bellach yn ennill llai nag y gallai ei ennill fel athro newydd gymhwyso ddau ddegawd yn ôl. Nawr, ni all hynny fod yn iawn. Ni all fod yn iawn ychwaith fod elw’n cael ei wneud ar draul tâl ac amodau gwael i athrawon cyflenwi. Nawr, fel Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhywbeth y gallwch ei wneud ynglŷn â hyn—nid oes yn rhaid i chi aros i dâl ac amodau gael eu datganoli. Felly, a wnewch chi ymrwymo i unioni camweddau’r gorffennol drwy gyflwyno system ganolog ar gyfer athrawon cyflenwi yng Nghymru, ar gyfer Cymru gyfan, ar gyfer pob athro cyflenwi, fel y rhai sy’n bodoli eisoes yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, fel y gallwn, o’r diwedd, sicrhau chwarae teg i'r sector pwysig hwn sy’n cael ei wthio i’r cyrion yn aml yn ein system addysg?