Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Yn sicr, ambell waith mae eisiau ychydig o stick yn ogystal â'r carrot; rwy'n llwyr gytuno. Yn y cyfamser, tra ein bod ni'n aros am y safonau newydd, er enghraifft, ar iechyd—ac mae'n bwysig; bydda i'n edrych ar rheini yn yr wythnosau nesaf yma—beth sy'n bwysig rwy'n meddwl yw ein bod ni'n cadw'r pwysau ar y cwmnïau preifat yma. Rwyf eisoes wedi gofyn i'r bobl sy'n gweithio yn yr adran i sicrhau fy mod i yn cael gwybod am unrhyw achos lle maen nhw'n credu nad yw cwmnïau efallai wedi mynd mor bell ag y dylen nhw fod yn mynd, fel fy mod i yn gallu ysgrifennu yn uniongyrchol. Rwyf wedi gofyn os gallaf i ysgrifennu at Great Western Railway, er enghraifft, i sicrhau ein bod ni'n cadw'r pwysau arnyn nhw. Nid oes rheswm yn y byd pam na allan nhw ddangos ychydig mwy o gydnabyddiaeth o'r Gymraeg a defnydd o'r Gymraeg. Dylen nhw dalu mwy o barch at ein gwlad ni, a byddwn ni yn cadw'r pwysau yna ar y cwmnïau yma.