Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Dywedaf eto, Ysgrifennydd y Cabinet: am bob £1 sy'n cael ei gwario ar y system addysg yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20. Nid oes esgus dros ariannu ysgolion drwy roi llai o gyllid iddynt fesul disgybl, fesul y pen, nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n warthus.
Un ffordd y gallech geisio dechrau mynd i'r afael â'r mater penodol hwn yw targedu adnoddau ar grwpiau difreintiedig, ac mae hyn yn un peth, wrth gwrs, y ceisiodd Llywodraeth glymblaid y DU, pan oedd eich plaid mewn grym yno, ei wneud gyda'r grant amddifadedd disgyblion, ac wrth gwrs rydym wedi croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi gwneud yr un peth.
Un o'r grwpiau difreintiedig sydd gennym yng Nghymru yw plant i rieni sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Yn aml, amherir ar addysg plant y lluoedd arfog am fod gwaith eu rhieni yn golygu bod yn rhaid iddynt newid ysgol ac yn aml mae angen cymorth bugeiliol ychwanegol arnynt os yw eu rhieni ar wasanaeth. Gwyddom fod y dystiolaeth yn awgrymu y gall y ffactorau hyn effeithio ar gyrhaeddiad a chanlyniadau addysgol disgyblion y lluoedd arfog os na cheir cefnogaeth ychwanegol.
Yn Lloegr, maent wedi cydnabod yr anfantais, ac mae Adran Addysg y DU, nid y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn darparu premiwm disgyblion y lluoedd arfog i ysgolion sy'n cynnwys plant y lluoedd arfog. Mae'n Wythnos y Cofio, Ysgrifennydd y Cabinet; a wnewch chi fanteisio ar y cyfle, yn ystod yr wythnos bwysig hon, i ymrwymo i gyflwyno premiwm disgyblion y lluoedd arfog yma yng Nghymru?