Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:57, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y sylw a gawsoch yn y cyfryngau ar yr adeg honno, roeddech yn iawn i siarad am y niwed y gall bwlio ei wneud i ddysgu a chynnydd plant yn yr ysgol. A fuasech yn cytuno â mi y gallai bwlio ymhlith athrawon, ar wahân i'r gofid y byddai'n ei achosi i fywyd personol a phroffesiynol yr athro, effeithio'n negyddol hefyd ar ein plant ysgol, gan y byddai hynny yn anochel, bron, yn arwain at athrawon anhapus a'u perfformiad yn yr ystafell ddosbarth yn debygol o gael ei effeithio'n negyddol yn sgil hynny, ac y byddai'r morâl yn yr ystafell ddosbarth yn isel, gan greu sefyllfa lle nad oes unrhyw un yn elwa?