Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch, Caroline. Buaswn yn falch iawn o rannu gyda'r Siambr, os nad yw'r Aelodau'n gwybod amdano, y data diweddaraf gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau ar geisiadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, yn ogystal â chyrsiau milfeddygol a chyrsiau meddygol, lle mae'n rhaid gwneud y ceisiadau erbyn 15 Hydref. Rwy'n falch iawn o ddweud y bu cynnydd yn nifer y ceisiadau hynny. Mae'r ceisiadau o Gymru am gyrsiau gyda dyddiad cau ar 15 Hydref wedi codi 6 y cant, er gwaethaf gostyngiad sylweddol yn y cohort 18 mlwydd oed. Mae'r ceisiadau am gyrsiau meddygol wedi codi 2 y cant. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau'n cytuno bod y ffigurau hyn yn galonogol ac yn dangos bod rhwydwaith Seren yn gwreiddio o ddifrif ac yn ychwanegu gwerth.