Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Yr arferiad, rydw i'n credu, yw cyfeirio cwestiwn at Ysgrifennydd y Cabinet.
Roedd y Gweinidog wedi cyfeirio ddoe at yr angen am dystiolaeth nawr ar gyfer y modelau gorau ar gyfer rheoleiddio iaith. A dweud y gwir, rwy'n credu bod y Gweinidog blaenorol ond wedi medru cyfeirio at adroddiad o Dŷ'r Arglwyddi—un cyffredinol ynglŷn â rheoleiddio yn mynd nôl i 2004. Felly, mae yna ddiffyg sail dystiolaethol sicr wedi bod. A ydy'r Gweinidog yn gallu esbonio'r math o dystiolaeth, yn edrych ar arferion gorau o ran modelau rheoleiddio iaith ar draws y byd, y byddwch chi nawr yn ei chomisiynu?