Gofal Cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:21, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Fel y gŵyr Neil, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd cenedlaethol strategol, ac mae'r ymrwymiad hwnnw wedi'i ategu gan gyllid ychwanegol: darparwyd cyfanswm o £55 miliwn o gyllid ychwanegol rheolaidd i awdurdodau lleol ei ddefnyddio mewn gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18, ac rydym hefyd, wrth gwrs, wedi ymrwymo i ddyblu'r cyfalaf y gall pobl ei gadw wrth fynd i mewn i ofal preswyl i £50,000. Drwy'r gronfa gofal integredig, rydym yn darparu £60 miliwn ar gyfer darparu gofal integredig ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer gwasanaethau ailalluogi, cymorth ar gyfer rhyddhau pobl o'r ysbyty yn amserol ac yn effeithiol, a thimau gofal integredig yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.