Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac rwy'n ei longyfarch ar ei benodiad ac yn ei groesawu i'w rôl newydd. Fe fydd yn gwybod o'i friff, os nad oedd yn ymwybodol eisoes, fod achos cartref gofal Bodlondeb yn Aberystwyth wedi cael sylw sawl gwaith yn y Siambr hon—yn enwedig gan fy nghyd-Aelod Simon Thomas—a'r tu allan, gan neb llai na'r Llywydd ei hun. Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud y penderfyniad terfynol i gau'r cartref nyrsio hwn, ond ymddengys nad oes cynlluniau digonol yng Ngheredigion ar gyfer gofal amgen i breswylwyr y cartref hwn, ac nid oes unrhyw gynllun ar gyfer darparu gofal cymdeithasol yn y rhan honno o'r sir ar gyfer y dyfodol. Felly, er bod y Gweinidog yn iawn i ddweud faint o arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru at y dibenion hyn, beth y gellir ei wneud mewn amgylchiadau lle nad yw cynghorau sir, sef y darparwyr ar lawr gwlad, yn gwneud darpariaethau digonol ar gyfer y dyfodol? A pha bwerau sydd ganddo i lenwi'r gwacter a adewir ar ôl mewn sefyllfa o'r fath?