Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Simon, rwyf wedi ymrwymo i rannu popeth y gallaf ei rannu gydag Aelodau'r Cynulliad. Yn gyntaf oll, mae angen iddo fynd at Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru er mwyn iddynt ei ystyried. Bydd angen i minnau ei weld yn gyntaf hefyd, ond er tryloywder, rwy'n awyddus i sicrhau bod popeth y gallaf ei rannu gydag Aelodau'r Cynulliad yn cael ei rannu gan ei bod hefyd yn bwysig, wrth wneud hynny, ein bod yn gallu rhoi sicrwydd ynghylch yr hyn a wnaed, ond ein bod hefyd yn edrych ar y cynnydd sydd angen ei wneud o hyd, mewn gwirionedd.
O ran cartref gofal Bodlondeb, fel y dywedais yn fy ymateb blaenorol, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn pan oedd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud, ond ni ddylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru gamu'n syth i ganol y ddadl a phennu'r hyn a ddylai fod yn asesiad o anghenion lleol gan y darparwyr yno, ar lawr gwlad, gan yr awdurdod lleol. Ond rwy'n siŵr y byddant wedi clywed ei bryderon unwaith eto, a chredaf fod pob un ohonom yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolion a arferai fod yn breswylwyr ym Modlondeb, ond hefyd ar anghenion unigolion a fydd angen darpariaeth ofal yn yr ardal honno yn y dyfodol.