Gofal Cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:26, 15 Tachwedd 2017

A gaf innau longyfarch y Gweinidog ar ei rôl newydd? Rwyf mewn penbleth nawr achos rwyf eisiau gofyn am Bodlondeb a Phowys, ond ni chaf i get away gyda hynny. So, mi wnaf i ei ddweud fel hyn: fy mod innau yn cefnogi cadw cartref Bodlondeb ar agor, am y tro, tra'n bod ni'n chwilio am asesiad ehangach o sefyllfa gwelyau gofal a nyrsio yn y canolbarth, ac yn gofyn yn benodol i'r Gweinidog heddiw, gan ei fod wedi addo gwneud adroddiad ar sail yr adroddiad gan CSSIW ar y gwasanaethau plant ym Mhowys, a fydd modd i ni, fel Aelodau'r Cynulliad, weld yr adroddiad hwnnw. Achos, yn ôl beth rwy'n ei ddeall, mae'n gynllun gwella, ac rwy'n credu bod angen craffu ehangach gan y cyhoedd ar y cynllun gwella yma. Un ffordd o wneud hynny, wrth gwrs, yw rhannu hynny gyda'r Aelodau Cynulliad.