Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr iawn. Ers amser, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r achos dros hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol yng Nghymru, ond o gofio amcangyfrifon Cymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â niferoedd y meddygon teulu yn unig rydym eu hangen yn y blynyddoedd i ddod, efallai ein bod wedi tanamcangyfrif y ffigur. A ydych yn credu ei bod yn bryd i Blaid Cymru edrych ar y ffigur hwnnw o 1,000 o feddygon a'i gynyddu, a beth yw asesiad eich Llywodraeth o nifer y meddygon y byddwn eu hangen dros y 10 mlynedd nesaf, dyweder, a faint ohonynt y bydd angen i ni eu hyfforddi yng Nghymru?