2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, pan oeddwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, cysylltodd—dywedodd—etholwr wrthyf fod eu cymydog wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty ychydig ddyddiau'n unig ar ôl cael strôc, ond unwaith eto, nid oedd cynllun gofal ganddynt ar waith. Nid oedd gan yr unigolyn dan sylw unrhyw deulu gerllaw a bu'n rhaid iddynt ofalu am eu hunain. Yn anffodus, nid yw sefyllfa'r etholwr yn unigryw o bell ffordd, oherwydd bum wythnos yn ôl, soniais am rywun a oedd wedi cael llawdriniaeth ddargyfeirio driphlyg ar ei galon yn yr un sefyllfa ac yntau’n 83 oed. Rwyf wedi clywed am lawer iawn o achosion lle mae cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb gynllun gofal priodol a gofal parhaus ar waith, ac yn gorfod dibynnu ar garedigrwydd eu cymdogion am fod y wladwriaeth wedi gwneud tro gwael â hwy. Gweinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynllun gofal ar waith ar gyfer pob claf agored i niwed sy'n cael ei ryddhau o'r ysbyty?
Wel, diolch am eich cwestiwn. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, o ran eitemau unigol yr achos hwnnw, os hoffech eu dwyn i fy sylw, naill ai ysgrifennwch ataf, neu os ydych yn awyddus i gyfarfod â mi, rwy'n fwy na pharod i'w trafod, a gweld beth y gellir ei wneud yn yr achos unigol hwnnw?
Un o'r ffactorau mwyaf sy'n ein hwynebu yw'r mater o oedi wrth drosglwyddo gofal, wrth gwrs. Nid wyf yn gwybod a oedd hynny'n ffactor perthnasol yn yr achos penodol hwn, ond yn sicr, rydym yn ymwybodol, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn arbennig, fod y cynnydd sylweddol diweddar wedi deillio o oedi wrth drosglwyddo gofal, ac rwy'n meddwl tybed a ychwanegodd hynny at yr effeithiau. Ond byddaf yn edrych ar yr achos unigol y cyfeiriwch ato, a chawn weld beth y gellir ei wneud.
Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Wrth gwrs, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i drawsnewid y modd y darperir gofal cymdeithasol, a sicrhau bod pawb sydd angen gofal yn cael gofal. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid yn unig ein bod yn gweld cleifion yn cael eu hanfon adref heb neb i helpu i ddiwallu eu hanghenion gofal, ond mae gennym hefyd nifer fawr o gleifion yn yr ysbyty am gyfnodau llawer hwy nag sydd angen iddynt fod, oherwydd nad oes ganddynt becyn gofal parhaus. Mae ystadegau diweddaraf oedi wrth drosglwyddo gofal yn dangos bod 462 o bobl yn yr ysbyty am gyfnodau hwy nag sydd angen iddynt fod. Mae mwyafrif y cleifion hyn yn treulio tua mis yn hwy yn yr ysbyty oherwydd nad oes gofal cymunedol ar gael, neu oherwydd bod diffyg lleoedd mewn cartrefi gofal. Gweinidog, mae'n ffaith hysbys po fwyaf o amser y bydd y cleifion hyn yn ei dreulio yn yr ysbyty, y mwyaf o amser y byddant yn ei gymryd i wella.
Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddileu achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal?
Wel, unwaith eto, diolch i chi am y cwestiwn pellach. Ac mae'n broblem go iawn, ac yn fater rydym yn buddsoddi arbenigedd a chymhwysedd yn ogystal ag arian ynddo, ac yn gweithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ar lawr gwlad. Rydym wedi gweld cynnydd yn ystod mis Awst, ac mae'n gynnydd nad oeddem wedi'i weld yn y 18 mis blaenorol. A dwy o'r ardaloedd hynny oedd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a hefyd Hywel Dda. Felly, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol yn uniongyrchol yn eu hymdrechion i sicrhau capasiti gwasanaeth ychwanegol, ac i wneud, rhaid imi ddweud, defnydd mwy effeithiol o'r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael. A rhan o hyn yw gweithio'n gydgysylltiedig yn yr ardaloedd hynny.
Mae disgwyl i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol barhau i gydweithio'n agos, gan wneud y defnydd gorau posibl o'r cyllid gofal canolraddol a ryddhawyd gennym i sicrhau bod gwelliant yn cael ei gynnal, a'n bod yn mynd i'r afael â materion capasiti cyn, fel y gŵyr pawb ohonom, y pwysau sydd i ddod dros dymor y gaeaf. Mae rhywfaint o obaith yma, fodd bynnag, oherwydd mae gennym rai ardaloedd sy'n gwneud yn dda yn y maes hwn o oedi wrth drosglwyddo gofal. Felly, yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Powys, er enghraifft, mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn parhau i fod yn is na lefelau hanesyddol, ac mae problemau wedi bod o'r blaen, er gwaethaf amrywiadau cyfnodol. Ac mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, ym mis Medi, yn dangos gostyngiad o 31 y cant yn yr oedi o'i gymharu â'r misoedd blaenorol. Felly, mae'n dangos, o fewn y capasiti sy'n bodoli ar lawr gwlad, y gellir gwneud i bethau weithio, ond bydd angen meddwl cydgysylltiedig.
Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Rydym yn ymwybodol iawn fod gofal cymdeithasol yn wynebu galw cynyddol. Yn anffodus, nid ydym yn ateb y galw hwnnw. Amlygir hyn yn glir iawn yn adroddiad diweddar Age Cymru 'Care in Crisis'. Canfu Age Cymru nad oedd pobl hŷn mewn rhai rhannau o Gymru yn cael yr asesiadau gofalwyr angenrheidiol, a bod amrywio enfawr rhwng awdurdodau lleol. Roedd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol i fod i roi diwedd ar y loteri cod post mewn perthynas â gofal, ond rydym yn parhau i ganfod bod rhai awdurdodau lleol yn well nag eraill am gyflwyno'r pecyn hwn.
Gweinidog, beth yn fwy y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, a sicrhau na fydd toriadau yn y gyllideb yn effeithio ar eu gallu i gyflawni'r dyletswyddau hyn? A hoffwn ddweud hefyd, wrth fonitro'r sefyllfa hon ar draws fy rhanbarth, rwyf wedi sylwi bod gofal o safon gwahanol yn cael ei roi i gleifion oedrannus yn y rhanbarth, a hoffwn siarad â chi am hynny rywbryd.
Diolch.
Diolch i chi, unwaith eto, am y cwestiwn atodol hwnnw. Ac fel y trafodwyd yn y pwyllgor yn gynharach y bore yma, mae llawer iawn y gallwn ei wneud o fewn yr adnoddau sy'n bodoli drwy weithredu'n fwy clyfar. Ac mae hynny'n cynnwys y defnydd o weithio mewn partneriaeth ranbarthol i gomisiynu gwasanaethau ar y cyd, mae'n cynnwys y defnydd o gyllidebau cyfun, fel y gallwn rannu beth yw'r blaenoriaethau ar draws rhanbarth yn hytrach na cheisio ei wneud ar sail dameidiog, ac mae llawer o bethau eraill, gan gynnwys y gronfa TGCh, y gellir eu defnyddio i wneud y pethau hyn. Ond yn y pen draw—fel roeddwn i yn y pwyllgor y bore yma, ac fel roedd Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n rhaid i ni fod yn hollol onest yn ogystal: nid oes pot newydd o arian. Rydym yn gweithio o fewn y cyfyngiadau sydd gennym, a gwn y bydd cyllideb adnoddau Cymru 7 y cant yn llai erbyn diwedd 2019-20. Bydd £1 biliwn yn llai nag ydoedd yn 2010, ac wrth gwrs, mae'r gwariant cyfalaf 7 y cant yn llai. Dyna'r realiti y mae'n rhaid i awdurdodau lleol, darparwyr eraill ar lawr gwlad a ni ein hunain weithio ynddo, ond nid yw hynny'n golygu y dylem roi'r gorau i weithio'n fwy clyfar gyda phartneriaethau rhanbarthol, cronfeydd cyfun, er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Ers amser, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r achos dros hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol yng Nghymru, ond o gofio amcangyfrifon Cymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â niferoedd y meddygon teulu yn unig rydym eu hangen yn y blynyddoedd i ddod, efallai ein bod wedi tanamcangyfrif y ffigur. A ydych yn credu ei bod yn bryd i Blaid Cymru edrych ar y ffigur hwnnw o 1,000 o feddygon a'i gynyddu, a beth yw asesiad eich Llywodraeth o nifer y meddygon y byddwn eu hangen dros y 10 mlynedd nesaf, dyweder, a faint ohonynt y bydd angen i ni eu hyfforddi yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn yn parhau i drafod nid yn unig recriwtio meddygon a niferoedd meddygon, ond pob un o'n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sut y maent yn gweithio gyda'i gilydd. Rwy'n credu mai camgymeriad yw edrych ar un grŵp o weithwyr proffesiynol ar wahân i rai eraill, gan ein bod yn sôn yn gynyddol—[Torri ar draws.]—gan ein bod yn sôn yn gynyddol, er enghraifft, am newid y ffordd y mae gwasanaethau ysbyty yn gweithio, a symud mwy o'r gofal i fod yn lleol, wrth i waith barhau yn y clystyrau gofal iechyd lleol, a bod gennym feddygon teulu yn gweithio mewn gwahanol niferoedd gyda gwahanol grwpiau o weithwyr proffesiynol. Felly, mae angen i ni ystyried ac adolygu niferoedd y bobl rydym yn dymuno eu hyfforddi a'u recriwtio yn ein system gofal iechyd yn gyson, ac wrth gwrs, mae meddygon yn chwarae rôl bwysig iawn yn ein system gofal iechyd.
Mae creu Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi bod yn ddewis bwriadol a wnaethom, yn seiliedig ar adolygiad a ddeellir yn dda, i ddod â mwy o wybodaeth ynglŷn â niferoedd y gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol y mae angen i ni eu recriwtio a'u hyfforddi. Dyna pam y bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn dod i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at gael sgwrs fwy cyflawn am yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol gwahanol y bydd angen inni barhau i'w cael mewn gwasanaeth iechyd gwladol tosturiol sy'n gweithio'n dda ac o ansawdd uchel.
Iawn. Ni chlywais ffigur. Rydym yn eistedd yn weddol agos at ein gilydd; buaswn wedi meddwl y buasech wedi clywed fy mod yn gofyn yn benodol am feddygon, nid gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, yn y cwestiwn penodol hwn. A diolch yn fawr am dynnu sylw at y ffaith bod meddygon yn chwarae rôl bwysig yn y GIG. Os nad ydych yn gwybod faint o feddygon ychwanegol, yn benodol, y byddwn eu hangen, nid yw'n syndod ein bod yn wynebu argyfwng cynllunio gweithlu o'r fath yma yng Nghymru. Roeddwn yn barod i gyfaddef ei bod yn bosibl ein bod wedi ei gael yn anghywir a'n bod angen llawer mwy na 1,000 o feddygon. Rydym angen o leiaf 1,000. Rydym angen o leiaf 5,000 o nyrsys. Mae gennym brinderau, rydych yn hollol gywir, ar draws y gweithlu. Dyna pam rydym angen cynyddu niferoedd myfyrwyr ar draws gweithlu'r GIG, pam rydym angen canolfan newydd ar gyfer hyfforddiant meddygol ym Mangor, pam fod deintyddion a fferyllwyr, gyda llaw, yn gofyn i mi 'A gawn ni ragor o leoedd hyfforddi yn y gogledd hefyd, oherwydd rydym eu hangen?' Roedd ffigurau a gyhoeddwyd gan y BBC y mis diwethaf yn dangos ein bod ni, yn y flwyddyn ariannol hon, yn gweld mwy o bobl yn gadael y GIG nag sy'n ymuno, gan ein gadael gydag oddeutu 150—250, esgusodwch fi—yn llai o staff. A wnewch chi gyfaddef ein bod yn symud tuag at yn ôl?
Mae gennym heriau gwirioneddol a sylweddol, ac nid oes diben esgus fel arall. Rwy'n dweud hynny'n rheolaidd, yn y Siambr hon, mewn sgyrsiau preifat gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gydag Aelodau Cynulliad, ac mewn meysydd lle rwy'n gwneud areithiau ac yn ateb cwestiynau. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni fod yn gyson ac yn aeddfed ynglŷn â hyn yn y ffordd rwy'n gwneud fy swydd. Dyna pam nad wyf am gymryd rhan mewn proses artiffisial o chwilio am niferoedd, oherwydd mae'n rhaid i ni ddeall beth y byddwn yn ei ddisgwyl o'n system gofal iechyd a sut rydym yn disgwyl iddi ymddwyn. Bydd yr adolygiad seneddol, er enghraifft, yn ein helpu ac yn gosod heriau i ni mewn perthynas â'r ffordd rydym yn disgwyl i iechyd a gofal gael eu darparu yn y dyfodol. Yn amlwg, felly, bydd y dewisiadau a wnawn yn y Llywodraeth ynglŷn â'r modd y bydd y strategaeth iechyd a gofal yn symud ymlaen yn y dyfodol yn effeithio ar niferoedd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rydym eu hangen. A dyna pam nad wyf eisiau cael fy nghlymu wrth un grŵp unigol o weithwyr proffesiynol yn hytrach na grwpiau eraill. Ac fe atebais eich cwestiwn yn y ffordd honno'n fwriadol. Gallem fynd yn ôl ac ymlaen ac edrych ar y semanteg rhyngom pe baem eisiau. Nid wyf yn credu bod hynny'n arbennig o ddefnyddiol. Mae gennyf lawer mwy o ddiddordeb mewn cael sgwrs briodol, aeddfed ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol, y cydblethiad rhyngddo a gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill yn ogystal. Ac mae'n rhaid mai dyna'r ffordd gywir o ymddwyn, nid yn unig yn y Siambr, ond yn y ffordd y byddaf yn gwneud fy ngwaith.
Ac wrth inni feddwl, er enghraifft, am y ffordd rydym yn gwneud cynnydd go iawn gyda'r ystod o heriau recriwtio, rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn y broses o recriwtio nyrsys, mae mwy o fydwragedd yn cael eu recriwtio, ac mae gennym gyfradd lenwi o 91 y cant fan lleiaf ymhlith ein meddygon teulu. A nododd y Prif Weinidog ddoe y byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r lle hwn ar y cynnydd parhaus rydym wedi'i wneud yn y maes hwnnw yn y dyddiau nesaf. Felly, mae cynnydd go iawn yn cael ei wneud, ond mae yna heriau go iawn hefyd. Buasai'n llawer gwell gennyf fod yn onest ynglŷn â hynny yn hytrach na phryfocio yn y Siambr a chwilio am ffigurau nad ydynt o bosibl yn bodoli yn y ffordd gadarn y gallent ac y dylent os ydym o ddifrif ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth iechyd.
Llywydd, yn gynharach fe herioch chi un o fy nghyd-Aelodau i ddod at y cwestiwn; efallai y gallech herio'r Gweinidog i roi ateb.
Beth am roi cynnig ar un y gallwn gytuno arno o bosibl. Gofid arall mewn perthynas â staffio yw ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Mae arolwg gan Gymdeithas Feddygol Prydain yn awgrymu bod 45 y cant o feddygon UE sy'n gweithio yn y DU yn ystyried gadael—rheswm arall efallai dros gynyddu ein ffigur o 1,000 o feddygon. Ond gyda'r bygythiad hwn i weithlu'r GIG, buaswn yn tybio y buasech eisiau cymaint o lais ag y bo modd yn nhelerau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, yn y Senedd neithiwr, methodd pob un ond un o'r Aelodau Seneddol Llafur gefnogi gwelliant gan Blaid Cymru yn galw ar y Cynulliad a Seneddau datganoledig eraill i gael dweud eu dweud ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). A ydych yn rhannu fy siom chwerw ynglŷn â hynny ac a ydych yn rhannu fy ofn nad yw hynny'n argoeli'n dda o ran cael yr hawl, er enghraifft, i gael ein system trwyddedau gwaith y GIG ein hunain yma yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â'n hanghenion gweithlu GIG ein hunain?
Rydym wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon mewn perthynas â Brexit; rydym wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon mewn perthynas â'r awydd i gael sgwrs fwy aeddfed â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am realiti Brexit a'r niwed y gallai ei wneud os ceisir cyflawni hynny yn y modd anniben y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn o bryd. Nid wyf yn ymddiheuro am lynu wrth bolisi'r Llywodraeth hon a thynnu sylw at y pryderon sydd gennym, nid ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol yn unig, ond ynglŷn ag ystod eang o sectorau o fywyd cyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.
Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi nodi'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd ar y gofrestr o'r Undeb Ewropeaidd yn y gweithlu nyrsio yn ogystal ag ofnau rhesymol am y gweithlu meddygon, am bobl yn mynd ati i ystyried eu dyfodol. Rwy'n benderfynol o wneud yr achos, gyda gweddill y Llywodraeth hon, dros fabwysiadu ymagwedd fwy synhwyrol tuag at Brexit, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ac yn cydnabod realiti o'r diwedd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cyfrifoldebau rydych wedi'u cadw ar ôl yr ad-drefnu'n cynnwys ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, er bod gennych Weinidog gofal cymdeithasol sy'n goruchwylio gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru. Wrth asesu blaenoriaethau eich cyllideb, rydych wedi penderfynu torri'r arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith ymchwil hwnnw. Pa waith ymchwil cyfredol a pha waith ymchwil yn y dyfodol sy'n debygol o gael ei beryglu gan y penderfyniad hwn? A oes yna effaith ar Gofal Cymdeithasol Cymru, a oedd yn awyddus i wneud rhywfaint o ymchwil, ac a fydd unrhyw ran o gyllid eich partneriaid ymchwil cyfredol mewn perygl o ganlyniad i'r gostyngiad yn y cyllid o'r lle hwn?
Mae dau beth rwyf am eu dweud. Y cyntaf yw ein bod yn credu y gallwn reoli rhywfaint o'r gostyngiad heb effeithio ar weithgarwch ymchwil cyfredol. Bydd yn effeithio ar rai o'n cysylltiadau yn strwythur y Deyrnas Unedig mewn perthynas ag ymchwil iechyd a gofal, ond credwn y gallwn ymdopi. Ond mae'n golygu bod yna bethau na fyddwn efallai'n gallu eu gwneud fel arall. Mae'r her, fodd bynnag, yn dod yn ôl at fy ail bwynt, a wnaed gennym yn y pwyllgor heddiw. Nid oes modd gwneud dewis heb ganlyniadau'n perthyn iddo wrth gyfaddawdu o fewn cyllidebau adrannol ac ar draws adrannau yn ogystal. Mae realiti gostyngiad sylweddol a pharhaus yn y gyllideb termau real sydd ar gael i'r lle hwn yn golygu bod toriadau'n cael eu gwneud yn y gyllideb mewn meysydd y buasai'n well gennym beidio â gwneud toriadau iddynt. Felly, un yn unig o'r meysydd hynny yw hwn. Nid oedd yn ddewis dymunol, nid oedd yn ddewis y cefais fwynhad o'i wneud, ond dyna yw realiti bod yn Weinidog yn y Llywodraeth mewn cyfnod o gyni parhaus. Rwy'n mawr obeithio bod eich cyd-Aelod yn Rhif 11 Stryd Downing yn gosod trywydd gwahanol ar gyfer gwariant cyhoeddus er lles pob un rhan o'r Deyrnas Unedig, ond nid wyf yn or-obeithiol y ceir safbwynt gwahanol ar gyfer y dyfodol.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn gobeithio am ateb ynglŷn â beth yn union rydych yn bwriadu ei dorri o ran ymchwil—nid y swm o reidrwydd, ond pa fathau o ymchwil a fydd ar eu colled yn awr. Beth yn union na fyddwn yn ei weld yn cael ei wneud? Pa bartneriaid fydd, o bosibl, yn colli eu cyllid o ganlyniad i'n penderfyniad? A buasai un enghraifft yn unig wedi bod yn iawn ar gyfer hynny.
Rwyf am symud ymlaen yn awr at y cynigion i symud gwasanaethau iechyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. Buasai hynny yn naturiol yn effeithio ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Mae rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol Bae'r Gorllewin yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, a'r tri awdurdod lleol yn yr un ôl troed.
Mae Cwm Taf eisoes yn darparu rhywfaint o ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer cleifion Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond credaf ei bod yn bur annhebygol y bydd Cwm Taf yn ei gyfanrwydd yn cael ei gynnwys yn rhaglen Bae'r Gorllewin. Felly, pa syniadau cychwynnol a wyntyllwyd ar y berthynas rhwng Cwm Taf a phartneriaeth Bae'r Gorllewin, yn arbennig ar y cwestiwn sydd wrth law ynglŷn â chyllidebau cyfun y bydd yn rhaid penderfynu yn eu cylch erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf?
Yn wir. O ran cyllidebau cyfun, dywedais yn y pwyllgor iechyd heddiw fod angen i ni fabwysiadu safbwynt pragmataidd ar le Pen-y-bont ar Ogwr mewn trefniadau cyllideb gyfun. Ni fuasai'n synhwyrol i ni ei gwneud yn ofynnol i Ben-y-bont ar Ogwr gymryd rhan mewn perthynas cyllideb gyfun gyda Chynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ar yr un pryd, rydym yn ymgynghori ar y posibilrwydd o'u symud i mewn i ôl troed ehangach Cwm Taf. Dyna'r un ardal lle y bydd angen i mi wneud y penderfyniad hwnnw, o ystyried diddordeb etholaethol y Gweinidog, ond bydd yn effeithio ar y ffordd rydym yn awr yn disgwyl i Ben-y-bont ar Ogwr fod yn awdurdod sy'n wynebu'r dwyrain.
Bydd proses ymgynghori ffurfiol yn dechrau fis nesaf. Cytunwyd ar hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, ac mae fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd llywodraeth leol newydd a minnau'n dal i ddisgwyl y bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n digwydd fis nesaf, wrth i ni barhau i roi camau ymarferol ar waith ar gyfer y symud yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd angen i ni feddwl am yr hyn sy'n aros yn union yr un peth, a llif cleifion, a bydd angen i ni feddwl beth sydd angen ei newid yn y ffordd y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn dod yn fwy o ran o bartneriaeth gydag awdurdod Cwm Taf o ran gofal cymdeithasol. Felly, mae yna newidiadau i'w gwneud. Rydym yn credu mai dyma yw'r peth iawn i'w wneud, a dyna pam rydym wedi dweud ein bod yn dymuno ei wneud, ac edrychaf ymlaen at yr ymgynghoriad 12 wythnos ac at glywed yn fwy cyffredinol gan y cyhoedd ac wrth gwrs gan y staff yn yr holl sefydliadau a effeithir arnynt.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, rwy'n deall y rhesymeg y tu ôl iddo. Rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu rhoi rhywfaint o arweiniad ar ryw adeg, o bosibl, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y math hwn o doriad i sicrhau nad yw cynnydd ym maes gofal cymdeithasol yn cael ei beryglu mewn unrhyw ffordd, oherwydd maent wedi bod yn gwneud cynnydd yno.
Yn olaf, mae pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, am y pwysau ar y niferoedd, oherwydd nifer y meddygon teulu nad oes gennym yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cafodd y gwasanaeth y tu allan i oriau ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei gau am gyfnodau penodol dros ddwy noson am nad oedd unrhyw feddyg teulu lleol ar gael i gynnig y gwasanaeth. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cysylltodd 33 claf o Ben-y-bont ar Ogwr â'r gwasanaeth a bu'n rhaid iddynt gael eu cyfeirio at linell gymorth Treforys yn lle hynny, a chafodd pedwar ohonynt eu cynghori i fynychu'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Faint o broblem yw hi i'r meddygon teulu eu bod yn gorfod cynnig gwasanaeth y tu allan i oriau yn lleol yn ogystal â gwneud eu gwaith bob dydd? A yw'n effeithio ar ble y maent yn dewis ymarfer?
Fel y byddwch yn cofio, yn ystod canol y 2000au, newidiwyd strwythur y gwasanaeth y tu allan i oriau. Felly, mae meddygon teulu yn optio i mewn bellach ac nid yw'n ofynnol iddynt gyflawni'r swyddogaeth y tu allan i oriau fel rhan o'u contract gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol. Rhan o'r her sy'n ein hwynebu yw deall faint o feddygon teulu rydym eu hangen i wneud y gwasanaeth yn fwy sefydlog a diogel, a cheir heriau ar draws gwahanol rannau o Gymru a'r DU mewn perthynas â chael nifer ddigonol o feddygon teulu i gyflawni'r gwasanaeth hwnnw, ar y cyd, fel rydym yn ei ddeall fwyfwy, â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Felly, mae cyflwyno'r gwasanaeth 111 ar draws ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac ardal Caerfyrddin yn ogystal bellach, yn ddefnyddiol iawn mewn gwirionedd o ran defnyddio a deall y gwahanol niferoedd o bobl rydym yn disgwyl iddynt fod yno—a chael arweiniad clinigol meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys, ac yn wir, y cyngor y gall y rhai sy'n ateb galwadau ei roi. Felly, rydym wedi deall yr angen i newid ein gwasanaethau y tu allan i oriau er mwyn eu gwneud yn fwy cadarn, er mwyn eu gwneud yn fwy priodol i bobl sydd angen cymorth a chefnogaeth, a disgwyliaf y bydd prosiect 111 yn cael ei gyflwyno ledled y wlad, a bydd angen i mi bennu cyflymder y broses honno yn seiliedig ar werthusiad y peilot cynharach. Ond rwy'n disgwyl y bydd hwnnw'n rhoi mwy o sefydlogrwydd i wasanaethau y tu allan i oriau nid yn unig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond y bydd yn ôl troed a ffordd o weithio ar gyfer gweddill y wlad hefyd.