Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Rwy'n hapus i gadarnhau na ddylai'r newid yn y trefniadau ôl troed ynddo'i hun newid dim ar y ffordd y darperir gwasanaethau, nac yn wir ar lif cleifion neu'r arloesi sydd eisoes yn digwydd—er enghraifft, y ffederasiwn sydd ar waith rhwng meddygon teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r arloesi sy'n digwydd yng Nghwm Taf.
Beth bynnag a fydd yn digwydd yn y dyfodol, mae'n rhaid i bob bwrdd iechyd, â'i bartneriaid, edrych ar hyn y mae'n ei wneud a pham, ac nid oes unrhyw reswm o gwbl dros godi cwestiynau ynglŷn ag unrhyw gyfleuster gofal iechyd penodol yn syml o ganlyniad i newid yr ôl troed. Mae'n rhaid i unrhyw newid a phob newid arall i wasanaethau, neu unrhyw ddiwygiadau sy'n digwydd, gynnwys sgwrs briodol gyda'r staff a'r cyhoedd, ac nid yw'r newid hwn i'r ôl troed yn rheswm o gwbl dros fwrw amheuaeth ar unrhyw un o'r cyfleusterau cyfredol.