Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:54, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich ateb. Bydd Ysgrifennydd blaenorol y Cabinet yn cofio bod mynd drwy'r newidiadau i raglen de Cymru yn broses eithaf poenus, ac wrth gwrs, fe gollodd Cwm Taf wasanaethau argyfwng a phediatrig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wrth iddynt gael eu cadw yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nawr, rwyf newydd gael cadarnhad nad oes unrhyw gynlluniau i leihau gwasanaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru mewn perthynas â gwasanaethau brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol a gwasanaethau i blant sy'n gleifion mewnol, ond hoffwn eich ymrwymiad chi i'r status quo hwnnw yn ogystal. Yr hyn rwyf ychydig yn fwy pryderus yn ei gylch yw ei bod yn ymddangos nad oes gan Gwm Taf unrhyw wybodaeth am Ysbyty Cymunedol Maesteg ac nad yw'n barod i wneud unrhyw sylwadau penodol ar ei ddyfodol. Rwy'n meddwl tybed a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw, heb godi unrhyw ysgyfarnogod, y byddwch yn siarad â Chwm Taf ynglŷn â Maesteg a rhoi ychydig o wybodaeth iddynt efallai ynglŷn â pha mor bwysig yw'r ysbyty hwn.