Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Dyma flaenoriaeth bolisi bwysig i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi cytuno rhwng tair adran wahanol o fewn y Llywodraeth i gyllido ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i geisio deall effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar unigolion a theuluoedd yn eu cymunedau. Nid dull ariannu yn unig ydyw; mae'n ddull polisi a gweithredu yn ogystal. Dyna pam rwy'n falch fod y Llywodraeth hon wedi arwain y ffordd o ran rheolaethau ar dybaco, o ran ceisio gwella ein gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, ac yn wir, mae yna ymdrechion parhaus gan y Llywodraeth hon i geisio lleihau yfed niweidiol gyda'r cynigion sydd gan y Llywodraeth, fel y gwyddoch, i gyflwyno isafbris uned ar alcohol.
Ond mae hyn i gyd yn rhan o ddull gweithredu ehangach, ac rwy'n meddwl am lansiad y rhaglen Byw'n Dda, Byw'n Hirach a gynhaliwyd yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae hon yn rhaglen sy'n darparu canlyniadau go iawn ac yn dangos ffordd wahanol o geisio gweithio ochr yn ochr â phobl, gan fabwysiadu dull llai meddygol o geisio annog pobl sydd mewn perygl i fynychu lleoliad, yn aml y tu allan i rywle fel practis meddyg teulu, gan wneud defnydd da o weithwyr cymorth gofal iechyd, ac mae hynny'n dangos budd gwirioneddol ac yn nodi'r risgiau posibl i bobl yn ogystal â nodi afiechydon nad ydynt wedi cael diagnosis ac nad ydynt yn cael eu rheoli. Felly, mae yna ystod gyfan o faterion, ac mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn un ohonynt, lle rydym yn annog pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain a gwneud penderfyniadau gwahanol. Ni cheir un ymyrraeth unigol y bydd y Llywodraeth hon yn gallu ei gwneud, ond yn hytrach, bydd ystod ohonynt, a dealltwriaeth nid yn unig o'r hyn y penderfynwn ei wneud, ond sut rydym yn helpu'r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwahanol drostynt eu hunain i arwain at ganlyniadau gwell.