Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl blwyddyn, mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi adroddiad ar y bwlch parhaus a chynyddol mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ne-ddwyrain Cymru. Cyfeiriodd hefyd at ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd yn dweud bod buddsoddi mewn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, megis cysylltiad ag alcoholiaeth a defnyddio cyffuriau, yn gallu lleihau nifer yr ysmygwyr a'r defnyddwyr cyffuriau yn y dyfodol, gan ddarparu manteision iechyd a chost hirdymor. Pa gynlluniau sydd gan Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phroblem profiadau niweidiol yn ystod plentyndod er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?