Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, rwy'n deall y rhesymeg y tu ôl iddo. Rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu rhoi rhywfaint o arweiniad ar ryw adeg, o bosibl, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y math hwn o doriad i sicrhau nad yw cynnydd ym maes gofal cymdeithasol yn cael ei beryglu mewn unrhyw ffordd, oherwydd maent wedi bod yn gwneud cynnydd yno.
Yn olaf, mae pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, am y pwysau ar y niferoedd, oherwydd nifer y meddygon teulu nad oes gennym yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cafodd y gwasanaeth y tu allan i oriau ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei gau am gyfnodau penodol dros ddwy noson am nad oedd unrhyw feddyg teulu lleol ar gael i gynnig y gwasanaeth. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cysylltodd 33 claf o Ben-y-bont ar Ogwr â'r gwasanaeth a bu'n rhaid iddynt gael eu cyfeirio at linell gymorth Treforys yn lle hynny, a chafodd pedwar ohonynt eu cynghori i fynychu'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Faint o broblem yw hi i'r meddygon teulu eu bod yn gorfod cynnig gwasanaeth y tu allan i oriau yn lleol yn ogystal â gwneud eu gwaith bob dydd? A yw'n effeithio ar ble y maent yn dewis ymarfer?