Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:56, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw, ac rwyf wedi nodi gyda diddordeb y cynnydd y mae Cwm Taf wedi'i wneud gyda Rocialle. Unwaith eto, rhan o'n her yw sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd berthynas fwy aeddfed gyda phartneriaid yn y sector annibynnol heb gyfaddawdu ar werthoedd y gwasanaeth, gan edrych yn hytrach ar sut y gallwn gyflawni gwelliant go iawn. Mae sepsis, fel y gwyddom, yn lladd llawer o bobl, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld rhagor ar yr hyn y gellid ei wneud. Credaf, mewn gwirionedd, y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn cael budd yn yr ystyr hon, fel y dywedaf, o'r arloesi sydd eisoes yn digwydd yng Nghwm Taf. Dylent fod yn hawdd i'w cyflwyno i ardal Pen-y-bont ar Ogwr hefyd, yn ogystal â deall beth y gallem ac y dylem ei wneud i gyflwyno arloesi llwyddiannus ym mhob rhan o'n gwasanaeth ledled y wlad. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y gwaith sy'n parhau.

Bydd mwy yn cael ei ddweud ar yr arloesi penodol hwn yn ystod y mis nesaf, mewn gwirionedd, gan fod gennym fwy i ddod am yr adolygiad gan gymheiriaid ar ddirywiad acíwt. Felly, rwy'n fwy na hapus i ychwanegu fy llongyfarchiadau i Gwm Taf a'u partneriaid.