Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol, yn naturiol, fod cynlluniau yn y maes iechyd yn waith hirdymor. Bydd y cynlluniau hynny yn cynnwys nifer y gwelyau yn ysbyty Pen-y-bont, er enghraifft, yn y cynlluniau sydd ar y gweill gan fwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn fwy cyffredinol. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael i sicrhau parhad yn y gwasanaethau i gleifion?