Anghydraddoldebau Iechyd

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:48, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn. Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau annerbyniol rhwng canlyniadau iechyd ein cymunedau lleiaf breintiedig a'n cymunedau mwyaf breintiedig. Mae lleihau anghydraddoldeb yn uchelgais ganolog yn 'Ffyniant i bawb', ac mae hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol inni weithio mewn ffordd fwy integredig a chydweithredol yn y Llywodraeth a chyda'n partneriaid, gan symud yn barhaus tuag at atal.