Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, y bore yma, lansiwyd adroddiad Prifysgol De Cymru ar effaith gymdeithasol gamblo cymhellol. Ymddengys yn glir fod hwn yn prysur ddod yn fater iechyd cyhoeddus sy'n effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Mae yna gwestiynau ynglŷn â lleoliad siopau betio a pheiriannau betio ods sefydlog yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ddaearyddol, a hefyd y problemau yn ymwneud â gamblo ar-lein. Mae'n ymddangos bod y diwydiant gamblo yn targedu'r rhai mwyaf agored i niwed a gwendid pobl sydd angen llawer o arian yn gyflym, ac wrth gwrs maent yn annhebygol iawn o'i gael drwy gamblo. Yn y math hwnnw o gyd-destun, a chan gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedoch yn gynharach o ran gweithio ar draws y Llywodraeth, pa gamau rydych yn credu y gallwch eu cymryd ar y cyd â chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru i archwilio a mynd i'r afael â'r materion cynyddol bwysig hyn ymhellach?