Sw y Borth

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:05, 15 Tachwedd 2017

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am geisio ateb y cwestiwn o leiaf, ond wrth gwrs mae'r digwyddiadau hyn wedi creu tipyn o bryder i nifer o bobl yn yr ardal ac, yn ogystal, yn ehangach, i bobl sy'n gofalu am anifeiliaid a'u gofal nhw a'u lles nhw mewn sŵau. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau bod y Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad â'r cyngor sir dros y cyfnod yma? Pa drafodaethau a pha gamau, felly, a oedd yn cael eu cymryd? Er enghraifft, a oedd y Llywodraeth yn cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan y cyngor sir? Yn ehangach, gyda sefyllfa'r sw, mae'n amlwg bod rhywbeth o'i le pan fod anifail gwyllt yn gallu dianc a phan mae yna un arall yn marw oherwydd camdrafod. A ydym ni felly mewn sefyllfa i edrych ar y rheoliadau cenedlaethol sydd yn llywodraethu sefydliadau fel hyn i sicrhau bod pobl sydd yn rhedeg sŵ â'r sgiliau priodol, ond hefyd bod yr offer a'r sefyllfa yn briodol ar gyfer yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw yno?