Sw y Borth

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:06, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf fi hefyd yn bryderus iawn am y ddau ddigwyddiad. Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Chyngor Sir Ceredigion. Cafodd y penderfyniad i ladd yr anifail ei wneud gan y cyngor sir ynghyd â Heddlu Dyfed-Powys, swyddogion o Lywodraeth Cymru a hefyd y prif swyddog milfeddygol. Rwy'n credu bod yna nifer o faterion y mae angen edrych yn ofalus iawn arnynt mewn perthynas â'r drwydded. Ar hyn o bryd, mae arolygiad milfeddygol arbenigol ar y gweill. Dylai hwnnw ddod i ben heddiw. Unwaith eto, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gadw mewn cysylltiad a rhoi gwybod i mi cyn gynted ag y byddwn wedi cael y wybodaeth honno. Nid ydym eisiau dyfalu beth sy'n mynd i ddigwydd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni edrych ar y ffeithiau i gyd yma.