Aston Martin yn Sain Tathan

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:15, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod dros Fro Morgannwg am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Yn amlwg, mae'r sector modurol yn hollbwysig i Gymru, ac mae'r rhybudd llym a gyhoeddwyd gan Aston Martin yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi i Gymru gael llais uniongyrchol yn y trafodaethau ar adael yr UE, ac yn wir, mae'n tanlinellu'r angen i'r wlad hon gael llais a phleidlais ar fargen derfynol Brexit. Wrth gwrs, buasai cael hynny, os nad unrhyw beth arall, yn rhoi trosoledd i ni, yn wleidyddol, er mwyn blaenoriaethu'r sector modurol yn ogystal â diwydiannau eraill.

Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam roedd ei ffrindiau neithiwr ymhell o fod yn sefyll dros Gymru ym mhalas San Steffan, a heb drafferthu i gerdded drwy'r lobïau dros Gymru ar fater pleidlais i roi llais i'r Senedd hon ar fargen derfynol Brexit?