Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Llywydd, nid wyf yn dymuno treulio amser y Siambr y prynhawn yma yn rhoi darlith i lefarydd Plaid Cymru ar natur gwneud penderfyniadau datganoledig—rwy'n synnu nad yw Plaid Cymru yn deall hynny—fodd bynnag, gadewch i mi ddweud hyn: mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau bod lleisiau Cymru yn cael eu cynrychioli a byddwn yn parhau i ddarparu llais cryf dros Gymru, i sefyll dros fuddiannau Cymru, ac i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall beth yn union yw anghenion Cymru wrth i ni symud drwy'r broses hon. A bydd y Llywodraeth hon bob amser yn parhau i roi anghenion Cymru yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd.