Aston Martin yn Sain Tathan

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:23, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gynharach y prynhawn yma, Llywydd, gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i'r Prif Weinidog a oedd yn parhau i lynu wrth yr ateb a roddodd i Darren Millar yn 2014 na fu unrhyw honiadau o fwlio, neu a oedd wedi camarwain y Cynulliad. Nawr, gwrthododd y Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw, felly nid yw'n glir o gwbl bellach a gafodd y Cynulliad ei gamarwain, sy'n fater difrifol iawn yn wir. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Llywydd, i ofyn i'r Prif Weinidog ddychwelyd i'r Siambr y prynhawn yma fel y gall ateb y cwestiwn ynglŷn ag a gafodd y Cynulliad hwn ei gamarwain ar fater difrifol iawn, ac os nad yw'n barod i'w ateb ei hun, a fuasai'n ei gyfeirio at drydydd parti er mwyn i ni gael ymchwiliad annibynnol i'r mater hwn?