Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Mae'n fwy na thebyg nad yw hwnnw'n bwynt o drefn, ond mae eich sylwadau wedi'u cofnodi. Mae cynnwys ateb y Prif Weinidog—ac mae'n ddrwg gennyf nad yw yma ar gyfer y pwynt o drefn hwn—ond mater i'r Prif Weinidog yw cynnwys ei ateb. Ond o ystyried y prynhawn yma, efallai fod rhai o atebion y gweinidogion wedi bod yn rhy hir y prynhawn yma, ac efallai fod rhai wedi bod yn rhy fyr.