7. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:32, 15 Tachwedd 2017

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i Suzy Davies am agor y drafodaeth y prynhawn yma, a hefyd, wrth gwrs, am ddod gerbron y Pwyllgor Cyllid er mwyn i'r gyllideb ddrafft yma gael ei harchwilio, a hefyd am ymateb mor bositif a chadarnhaol i argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Ac mae'n dda iawn gen i glywed bod yr argymhellion wedi cael eu derbyn, ac rwy'n edrych ymlaen, felly, at gydweithio gyda'r Comisiwn nawr ar y ffordd y mae'r wybodaeth bellach yn dod gerbron, ac ar y ffordd y bydd y gyllideb yn y dyfodol yn cael ei harchwilio.

Rydw i jest eisiau dechrau drwy egluro un pwynt, rwy'n meddwl, sydd yn bwysig yn y cyd-destun yma. Wrth ymateb i'n hadroddiad ni mewn llythyr, mae'r comisiynydd, Suzy Davies, yn dweud bod y gyllideb ddrafft bresennol wedi ei chynnig yng nghyd-destun strategaeth pum mlynedd—rydych chi newydd gyfeirio at y strategaeth, a dweud y gwir—a gafodd ei chyflwyno, ei harchwilio a'i hargymell yn flaenorol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod y Pwyllgor Cyllid heb argymell unrhyw strategaeth o ran cyllid. Yn wir, beth ddywedon ni yn ein hadroddiad ni y llynedd oedd y canlynol:

'oherwydd yr ansicrwydd presennol mewn llawer o feysydd, y byddai'n amhriodol rhoi sylwadau ar y cynlluniau gwariant y tu hwnt i 2017-18.'

Felly, rwy'n meddwl ei bod hi'n glir iawn ein bod ni ond yn cymeradwyo cyllideb fesul blwyddyn, ac rwyf am esbonio hynny, achos rwy'n meddwl, o bosib, fod hynny wedi achosi rhywfaint o'r anghytuno, neu'r anghydweld, sydd wedi deillio o ambell i eitem yn y gyllideb yma.

Wedi dweud hynny, mae eisiau bod yn glir bod y gyllideb sydd ger eich bron heddiw yn gofyn am gynnydd sy'n fwy na chwyddiant, ac sy'n fwy na'r cynnydd a ddisgwylir yn y grant bloc. Er nad ydym wedi argymell newidiadau i'r cynnydd y gofynnwyd amdano ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae'r pwyllgor yn credu'n gryf, ar gyfer yr hyn sydd yn weddill o'r Cynulliad hwn, na ddylai cyllideb y Comisiwn fod yn fwy nag unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru.

Yn wyneb y toriadau parhaus i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei bod hi'n anodd cyfiawnhau unrhyw gynnydd yng ngwariant y Cynulliad. Fel Cynulliad, rhaid inni gydnabod bod unrhyw gynnydd a roddir i'r Comisiwn—yn ein henwau ni, wrth gwrs—yn cael ei gymryd o gronfa gyfunol Cymru, a bod hynny'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith, y ffordd, yn hytrach, mae'r comisiynydd wedi gosod allan ym mha ffordd y bydd hi a'r Comisiwn nawr, dros y blynyddoedd nesaf, yn delio â mater anodd i bawb yng Nghymru o ran y gyllideb. 

Argymhelliad allweddol arall, fel sydd wedi cael ei grybwyll, oedd ein hargymhelliad ni y dylid dileu'r cais am £700,000 i ddatblygu cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd. Os bydd angen arian ar gyfer hynny, dylid gofyn amdano mewn cyllideb atodol neu gynnig cyllidebol yn y dyfodol. Yr wyf yn ddiolchgar bod y Comisiwn wedi cytuno yr argymhelliad hwn. Rydym hefyd wedi argymell bod rhagor o fanylion yn cael eu darparu i bob Aelod, ac i bob grŵp hefyd yn y lle hwn, cyn i'r Comisiwn ofyn am ragor o gyllid ar gyfer adeilad newydd. Rwy'n credu bod adeilad newydd, a'r posibiliad o adeilad newydd, angen ei drafod yn llawn a bod angen i bob Aelod gael y cyfle i ddeall y rhesymeg sydd wrth wraidd y cynigion.

Y cyd-destun i hwn, wrth gwrs, yw bod y Comisiwn wedi gwario £1.9 miliwn y llynedd ar adnewyddu'r llawr gwaelod, yr ystafelloedd pwyllgor newydd rydych yn gyfarwydd â nhw. Fel pwyllgor roeddem yn ei chael hi'n anodd deall pam y gwariwyd cymaint o arian llai na blwyddyn yn ôl, pan oedd y posibilrwydd o godi adeilad newydd eisoes yn cael ei ystyried, ond nid yn cael ei ystyried gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad, mae'n rhaid dweud. Ariannwyd y gwaith adnewyddu hwn yn bennaf o'r tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau, ac mae penderfyniadau fel hyn yn golygu ein bod ni, fel pwyllgor, yn cymryd diddordeb ychwanegol, arbennig, os liciwch chi, yn y modd y defnyddir yr arian hwn. 

Mae'r defnydd a wneir o'r tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau wedi bod yn destun pryder i'r pwyllgor ers peth amser, ac yn sail i nifer o'n hargymhellion ni yn y gorffennol hefyd. Rydym yn cydnabod bod y Comisiwn wedi ystyried ein hargymhellion blaenorol, a bod y gyllideb ddrafft yn cynnwys rhagamcan o danwariant am y flwyddyn ac yn nodi sut y caiff y tanwariant o ran taliadau a'r arbedion eraill eu defnyddio yn ystod y flwyddyn.

Hefyd, fel y nodwn yn ein hadroddiad, rydym yn anghyfforddus bod prif gyllideb y Comisiwn yn dibynnu ar ragamcan o danwariant i ariannu meysydd gwaith blaenoriaeth, yn enwedig gan fod rhai o'r meysydd hyn yn cael eu hystyried fel rhai 'gorfodol'. Rydym yn gofyn pam bod gofynion gorfodol yn cael eu hariannu o danwariant posibl yn hytrach na'u cynnwys yn sicr yn y brif gyllideb. Rydym yn dal yn bryderus nad yw'r dull hwn o gyllidebu yn dryloyw nac yn eglur. Fel y soniwyd yn ein hadroddiad, rydym yn bwriadu cynnal ymchwiliad byr i gadarnhau sut y mae Seneddau eraill yn cyllidebu ar gyfer gwariant sy'n ymwneud â thaliadau a lwfansau Aelodau. 

Mae'r pwyllgor yn gefnogol i'r gwaith sydd ar y gweill i gynnal adolygiad o gapasiti er mwyn llywio trafodaethau yn y dyfodol am yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni blaenoriaethau'r Comisiwn. Credwn, fel rhan o'r adolygiad, y dylai'r Prif Weithredwr a'r Clerc sicrhau y gwneir y mwyaf o'r adnoddau presennol, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn manylion am ganlyniad yr adolygiad, fel sydd newydd gael ei addo gan y comisiynydd. Rydym yn disgwyl felly, dros y misoedd nesaf, i gydweithio â'r Comisiwn er mwyn sicrhau bod y dulliau cyllidebu a'r gyllideb ar gyfer y dyfodol yn sicr o gael y gefnogaeth ehangach posib yn y lle hwn.