– Senedd Cymru am 3:26 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, ac rydw i'n galw ar Suzy Davies i wneud y cynnig ar ran y Comisiwn.
Cynnig NDM6564 Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, fel y pennir yn Nhabl 1 o 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2017 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf gynnig cyllidebol y Comisiwn ar gyfer 2018-19 a gofynnaf iddo gael ei gynnwys yn y cynnig cyllideb blynyddol.
Mae'r gyllideb ar gyfer 2018-19, trydedd flwyddyn y pumed Cynulliad hwn, yn gyllideb—. Yn y gyllideb honno, mae'r Comisiwn yn gofyn am £56.1 miliwn, ac mae'n cynnwys tair elfen: £35.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn; £16.2 ar gyfer penderfyniad y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol; a £4.4 miliwn ar gyfer cyllidebau nad ydynt yn arian parod. Bydd y gyllideb hon yn sicrhau y gall y Comisiwn fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r Cynulliad gyda hyn ac yn y tymor hwy, a chefnogi cyflawniad ein nodau strategol yn briodol, gan gofio sefyllfa ariannol ehangach y sector cyhoeddus.
Mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad, ac rydym yn cydnabod bod y pwysau ar Aelodau'r Cynulliad yn fwy nag erioed, gydag ystod lethol o waith i bwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn, a chaiff ei ddwysáu gan newid cyfansoddiadol pellach, pwerau codi trethi a rheoli'r broses o adael yr UE. Mae cyfrifoldebau deddfwriaethol, ariannol a chraffu ein nifer fach iawn o Aelodau etholedig—44 yn unig ohonom, neu 46 efallai, sy'n gallu gwneud y gwaith hwn—yn unigryw ac yn hollbwysig, felly mae'n hanfodol ein bod yn cynnal y ddarpariaeth o wasanaethau rhagorol i gefnogi Aelodau wrth i chi gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.
Nid yw'n ymwneud yn unig â'r pwysau uniongyrchol. Mae'r Llywydd wedi nodi cynlluniau'r Comisiwn i wneud ein Senedd yn addas ar gyfer y dyfodol, gan roi llais i bobl ifanc yn ein democratiaeth, cyfathrebu'n effeithiol â'r cyhoedd, a chyflawni ein dyletswydd statudol i alluogi'r Cynulliad i gyflawni ei waith deddfwriaethol a chraffu, gan gynnwys datblygu gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad.
Mae angen llywodraethu da ar Gymru, ac ni ellir llywodraethu'n dda oni bai ei fod yn cael ei wella, ei graffu a'i ddwyn i gyfrif gan senedd effeithiol. Mae gennym bwerau deddfu newydd yn y maes hwn. Mae'n rhaid i'r Comisiwn wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i arfogi'r Senedd hon â'r gallu i sicrhau democratiaeth gref a chynaliadwy. Fel y byddwch yn deall, nid yw'r gwaith hwn ond megis dechrau. Wrth i ni symud ymlaen, bydd y Comisiwn yn parhau i ystyried goblygiadau'r gyllideb ac yn dychwelyd i'r Cynulliad i gael eich craffu gennych gan y Pwyllgor Cyllid, y ddadl flynyddol hon, ac yna drwy'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac unrhyw ffurfiau eraill sy'n rhesymol a awgrymir i ni.
Gan ddychwelyd at y gyllideb rydym yn ei hystyried heddiw, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu. Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, mae'n rhaid i'r Comisiwn ddangos yn gyson ei fod yn defnyddio adnoddau'n effeithlon ac yn effeithiol. Mae gwaith craffu'r pwyllgor yn rhan bwysig o hynny, felly rydym yn cychwyn y broses gyda'r nod o fod yn glir, yn agored ac yn dryloyw, ac mae'r gwaith craffu hwnnw'n helpu'r Comisiwn i wella wrth ymgyrraedd at y nod hwnnw.
Gwnaeth y pwyllgor 10 argymhelliad, ac fe aethom i'r afael â phob un yn gadarnhaol yn ein hymateb. Yn ein strategaeth gyllidebol, darparwyd ffigurau dangosol ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad hwn. Roedd y strategaeth, a gyhoeddwyd yn 2016, yn gosod y cyd-destun ar gyfer cyllideb y comisiwn ar gyfer y blynyddoedd sy'n weddill o'r pumed Cynulliad. Mae'r comisiwn, ar ôl adolygu a gwneud gwaith craffu pellach ar y strategaeth hon, yn cytuno bod modd ei chyfiawnhau o hyd. Ond mae hefyd yn cydnabod, yn y blynyddoedd sy'n weddill o'r Cynulliad hwn, na ddylai cyllideb y comisiwn fod yn fwy nag unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru. Mae'r comisiwn yn derbyn bod yn rhaid i unrhyw gais am gyllideb yn y dyfodol fod yn gymesur â'r newidiadau i grant bloc Cymru, ac yn wir, mae wedi ceisio cynnal cymesuredd o'r fath mewn blynyddoedd a fu, hyd yn oed mewn cyfnodau mwy uchelgeisiol. Wrth lunio ceisiadau cyllidebol yn y dyfodol, bydd angen i'r comisiwn ystyried unrhyw amrywiad ym mloc grant Cymru o ganlyniad i bwerau codi trethi newydd, ac ymdrin â chymesuredd, gan ystyried hynny hefyd.
Roedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys cais am swm o arian wedi'i glustnodi i'w ddefnyddio ar gyfer datblygu anghenion llety newydd posibl, i'w ddefnyddio os oes angen yn unig. Mae hyn yn unol â gwella tryloywder ac i roi gwybod i'r Cynulliad am unrhyw benderfyniadau costus a allai godi, ond heb fod yn bendant, yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae dau o argymhellion y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â'r mater hwn, ac mae'r pwyllgor wedi gofyn yn lle hynny ein bod yn cyflwyno cyllideb atodol er mwyn cyflwyno'r achos dros fuddsoddiad o'r fath ar wahân, pe bai'r comisiwn yn penderfynu ein bod yn dymuno mynd ar drywydd hyn. Derbyniwyd yr argymhellion, ac rydym wedi diwygio ein cyllideb yn unol â hynny.
Mae tri o'r argymhellion yn gysylltiedig ag adnoddau staff y comisiwn, gofynnwyd am wybodaeth am y cynnydd yn niferoedd staff dros y 10 mlynedd diwethaf, a meincnodi yn erbyn deddfwrfeydd eraill. Gwnaed argymhelliad na ddylid newid y nifer o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y Cynulliad yn 2018-19. Gan symud ymlaen, o fewn y terfyn uchaf sefydledig a gytunwyd, bydd y comisiwn yn ymdrechu i gynnal lefelau effeithiol o wasanaeth i gefnogi Aelodau ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Ac i helpu gyda hynny, mae'r comisiwn wrthi'n cynnal adolygiad o gapasiti ar hyn o bryd—ymarfer a ddechreuodd yng nghanol mis Medi—ac mae'r pwyllgor wedi gofyn am gael gweld canlyniadau'r ymarfer hwnnw mewn papur ffurfiol, ac rydym wedi cytuno i hynny.
Roedd tri argymhelliad arall yn cyfeirio at ddull y gyllideb o flaenoriaethu'n dryloyw, ac rydym wedi derbyn y rheini hefyd.
Felly, yn olaf, rwyf eisiau sicrhau'r Aelodau y byddwn yn parhau i weithio mewn modd sy'n darparu gwerth am arian, ac yn ymdrechu i fod mor effeithlon â phosib, gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bob Aelod i'n cefnogi ni i gyd yn effeithiol yn ein rolau.
Diolch.
Galwaf ar Simon Thomas i siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i Suzy Davies am agor y drafodaeth y prynhawn yma, a hefyd, wrth gwrs, am ddod gerbron y Pwyllgor Cyllid er mwyn i'r gyllideb ddrafft yma gael ei harchwilio, a hefyd am ymateb mor bositif a chadarnhaol i argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Ac mae'n dda iawn gen i glywed bod yr argymhellion wedi cael eu derbyn, ac rwy'n edrych ymlaen, felly, at gydweithio gyda'r Comisiwn nawr ar y ffordd y mae'r wybodaeth bellach yn dod gerbron, ac ar y ffordd y bydd y gyllideb yn y dyfodol yn cael ei harchwilio.
Rydw i jest eisiau dechrau drwy egluro un pwynt, rwy'n meddwl, sydd yn bwysig yn y cyd-destun yma. Wrth ymateb i'n hadroddiad ni mewn llythyr, mae'r comisiynydd, Suzy Davies, yn dweud bod y gyllideb ddrafft bresennol wedi ei chynnig yng nghyd-destun strategaeth pum mlynedd—rydych chi newydd gyfeirio at y strategaeth, a dweud y gwir—a gafodd ei chyflwyno, ei harchwilio a'i hargymell yn flaenorol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod y Pwyllgor Cyllid heb argymell unrhyw strategaeth o ran cyllid. Yn wir, beth ddywedon ni yn ein hadroddiad ni y llynedd oedd y canlynol:
'oherwydd yr ansicrwydd presennol mewn llawer o feysydd, y byddai'n amhriodol rhoi sylwadau ar y cynlluniau gwariant y tu hwnt i 2017-18.'
Felly, rwy'n meddwl ei bod hi'n glir iawn ein bod ni ond yn cymeradwyo cyllideb fesul blwyddyn, ac rwyf am esbonio hynny, achos rwy'n meddwl, o bosib, fod hynny wedi achosi rhywfaint o'r anghytuno, neu'r anghydweld, sydd wedi deillio o ambell i eitem yn y gyllideb yma.
Wedi dweud hynny, mae eisiau bod yn glir bod y gyllideb sydd ger eich bron heddiw yn gofyn am gynnydd sy'n fwy na chwyddiant, ac sy'n fwy na'r cynnydd a ddisgwylir yn y grant bloc. Er nad ydym wedi argymell newidiadau i'r cynnydd y gofynnwyd amdano ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae'r pwyllgor yn credu'n gryf, ar gyfer yr hyn sydd yn weddill o'r Cynulliad hwn, na ddylai cyllideb y Comisiwn fod yn fwy nag unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru.
Yn wyneb y toriadau parhaus i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei bod hi'n anodd cyfiawnhau unrhyw gynnydd yng ngwariant y Cynulliad. Fel Cynulliad, rhaid inni gydnabod bod unrhyw gynnydd a roddir i'r Comisiwn—yn ein henwau ni, wrth gwrs—yn cael ei gymryd o gronfa gyfunol Cymru, a bod hynny'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith, y ffordd, yn hytrach, mae'r comisiynydd wedi gosod allan ym mha ffordd y bydd hi a'r Comisiwn nawr, dros y blynyddoedd nesaf, yn delio â mater anodd i bawb yng Nghymru o ran y gyllideb.
Argymhelliad allweddol arall, fel sydd wedi cael ei grybwyll, oedd ein hargymhelliad ni y dylid dileu'r cais am £700,000 i ddatblygu cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd. Os bydd angen arian ar gyfer hynny, dylid gofyn amdano mewn cyllideb atodol neu gynnig cyllidebol yn y dyfodol. Yr wyf yn ddiolchgar bod y Comisiwn wedi cytuno yr argymhelliad hwn. Rydym hefyd wedi argymell bod rhagor o fanylion yn cael eu darparu i bob Aelod, ac i bob grŵp hefyd yn y lle hwn, cyn i'r Comisiwn ofyn am ragor o gyllid ar gyfer adeilad newydd. Rwy'n credu bod adeilad newydd, a'r posibiliad o adeilad newydd, angen ei drafod yn llawn a bod angen i bob Aelod gael y cyfle i ddeall y rhesymeg sydd wrth wraidd y cynigion.
Y cyd-destun i hwn, wrth gwrs, yw bod y Comisiwn wedi gwario £1.9 miliwn y llynedd ar adnewyddu'r llawr gwaelod, yr ystafelloedd pwyllgor newydd rydych yn gyfarwydd â nhw. Fel pwyllgor roeddem yn ei chael hi'n anodd deall pam y gwariwyd cymaint o arian llai na blwyddyn yn ôl, pan oedd y posibilrwydd o godi adeilad newydd eisoes yn cael ei ystyried, ond nid yn cael ei ystyried gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad, mae'n rhaid dweud. Ariannwyd y gwaith adnewyddu hwn yn bennaf o'r tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau, ac mae penderfyniadau fel hyn yn golygu ein bod ni, fel pwyllgor, yn cymryd diddordeb ychwanegol, arbennig, os liciwch chi, yn y modd y defnyddir yr arian hwn.
Mae'r defnydd a wneir o'r tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau wedi bod yn destun pryder i'r pwyllgor ers peth amser, ac yn sail i nifer o'n hargymhellion ni yn y gorffennol hefyd. Rydym yn cydnabod bod y Comisiwn wedi ystyried ein hargymhellion blaenorol, a bod y gyllideb ddrafft yn cynnwys rhagamcan o danwariant am y flwyddyn ac yn nodi sut y caiff y tanwariant o ran taliadau a'r arbedion eraill eu defnyddio yn ystod y flwyddyn.
Hefyd, fel y nodwn yn ein hadroddiad, rydym yn anghyfforddus bod prif gyllideb y Comisiwn yn dibynnu ar ragamcan o danwariant i ariannu meysydd gwaith blaenoriaeth, yn enwedig gan fod rhai o'r meysydd hyn yn cael eu hystyried fel rhai 'gorfodol'. Rydym yn gofyn pam bod gofynion gorfodol yn cael eu hariannu o danwariant posibl yn hytrach na'u cynnwys yn sicr yn y brif gyllideb. Rydym yn dal yn bryderus nad yw'r dull hwn o gyllidebu yn dryloyw nac yn eglur. Fel y soniwyd yn ein hadroddiad, rydym yn bwriadu cynnal ymchwiliad byr i gadarnhau sut y mae Seneddau eraill yn cyllidebu ar gyfer gwariant sy'n ymwneud â thaliadau a lwfansau Aelodau.
Mae'r pwyllgor yn gefnogol i'r gwaith sydd ar y gweill i gynnal adolygiad o gapasiti er mwyn llywio trafodaethau yn y dyfodol am yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni blaenoriaethau'r Comisiwn. Credwn, fel rhan o'r adolygiad, y dylai'r Prif Weithredwr a'r Clerc sicrhau y gwneir y mwyaf o'r adnoddau presennol, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn manylion am ganlyniad yr adolygiad, fel sydd newydd gael ei addo gan y comisiynydd. Rydym yn disgwyl felly, dros y misoedd nesaf, i gydweithio â'r Comisiwn er mwyn sicrhau bod y dulliau cyllidebu a'r gyllideb ar gyfer y dyfodol yn sicr o gael y gefnogaeth ehangach posib yn y lle hwn.
Galwaf ar Suzy Davies i ymateb.
Diolch yn fawr. A gaf fi ddiolch i chi unwaith eto, Simon, a'r Pwyllgor Cyllid, am eich ystyriaeth ofalus o gyllideb y Comisiwn? Nodais eich sylwadau am y gyllideb bum mlynedd amlflwydd, os caf ei roi felly. Mae'n deg dweud, wrth gwrs, fod y Pwyllgor Cyllid yn gwybod beth roeddem yn ei gynnig ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ac wrth gwrs buaswn yn cydnabod y pwynt y bydd angen inni newid y ffigurau hynny ar ryw bwynt efallai yng ngoleuni blaenoriaethau sy'n newid. Credaf fod y ffaith ein bod wedi gallu cadw at y ffigurau a roddais i chi y llynedd yn rhywfaint o dystiolaeth o'r ymdrech a wnaethom fel Comisiwn i dynhau ein gwregysau yn hytrach na'u llacio, gan gofio bob amser, fel y dywedais yn gynharach, am sefyllfa ariannol y sector cyhoeddus ehangach.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ar bob cyfrif.
Oni fuasech yn derbyn na all comisiwn y Cynulliad hwn fod yn rhydd rhag y cyni sy'n wynebu gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Yn sicr nid yw'n rhydd rhag yr angen i wneud arbedion effeithlonrwydd lle bynnag y bo'n bosibl eu gwneud, a byddwch wedi nodi, fel aelod o'r Pwyllgor, fod arbedion effeithlonrwydd wedi eu gwneud, mewn staffio i gychwyn, ac yn sicr mewn contractau dros y blynyddoedd blaenorol. Ond rydym hefyd mewn sefyllfa, fel y clywsoch yn ystod fy sylwadau agoriadol, lle mae'r Cynulliad hwn, y Senedd hon, yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd enfawr, gyda rhai ohonynt yn dod drwy ddeddfwriaeth, a rhai ohonynt yn dod drwy'r uchelgais gyffredinol sydd gan bawb ohonom i hon fod yn senedd o'r radd flaenaf. Rwy'n meddwl ei bod yn werth nodi bod y gyllideb hon yn 0.35 y cant o gyfanswm grant bloc Cymru. Nid yw hynny'n golygu nad yw'n werth ei chraffu mor drwyadl ag y bo modd. Ond fel y soniais yn gynharach, nid oes ond 44 ohonom i graffu ar y 99.65 y cant sy'n weddill o'r grant bloc hwnnw, ac mae angen y gefnogaeth seneddol ardderchog i'n galluogi i wneud hynny'n effeithiol gan fod cyn lleied ohonom. Er enghraifft, mae deddfwriaeth yn galw am yr un faint o ymdrech a gwaith i 3 miliwn o bobl ag y byddai i 30 miliwn o bobl. Ac mae'n galw am yr un faint o graffu, pa un a oes 44 neu dros 100 ohonom. Po leiaf ohonom sydd, y mwyaf yw ein galw am gymorth canolog y Comisiwn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i staff y Comisiwn a'r holl wasanaethau cymorth seneddol am eu hymroddiad ac am deithio'r filltir ychwanegol honno.
Credaf mai'r her fwyaf i'r Comisiwn hwn fydd sicrhau bod y Cynulliad, sy'n ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb, fel y soniais, yn cael ei arfogi'n briodol i wneud y gwaith. Os oes gennych unrhyw gwynion am yr hyn y mae llywodraeth leol yn ei gael, mater i Lywodraeth Cymru yw hynny, a hoffwn inni ddefnyddio ein cyllideb fach iawn er mwyn gwella gwasanaethau seneddol i'n helpu i graffu'n briodol ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Ein nod o hyd yw gosod a chynnal safonau uchel mewn cyfnod o graffu cyhoeddus agos a gwella ein henw da fel sefydliad seneddol rhyngwladol agored o'r radd flaenaf. Ar ran y Llywydd a 'm cyd-Gomisiynwyr, rhoddaf addewid lawn a diffuant y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddefnyddio ein hadnoddau, a ddarperir gan y gyllideb hon, i sicrhau ein bod yn goresgyn yr heriau hynny yn y ffordd fwyaf effeithlon sy'n bosibl.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.