Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Yn ystod yr wythnos nesaf, rydym ni'n disgwyl pleidlais i ymgynnull cyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ynghylch honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru a pha un a yw'r Cynulliad hwn wedi cael ei gamarwain ai peidio. Rydych chi wedi gwadu i chi dderbyn honiadau o fwlio yn benodol, ond dywedasoch hefyd yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion a godwyd gyda chi. Os na wnaethoch chi ymdrin â materion o fwlio, a allwch chi ddweud wrthym ni pa faterion yr ymdriniwyd â nhw a sut y gwnaethoch ymdrin â nhw?