1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Yn ystod yr wythnos nesaf, rydym ni'n disgwyl pleidlais i ymgynnull cyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ynghylch honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru a pha un a yw'r Cynulliad hwn wedi cael ei gamarwain ai peidio. Rydych chi wedi gwadu i chi dderbyn honiadau o fwlio yn benodol, ond dywedasoch hefyd yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion a godwyd gyda chi. Os na wnaethoch chi ymdrin â materion o fwlio, a allwch chi ddweud wrthym ni pa faterion yr ymdriniwyd â nhw a sut y gwnaethoch ymdrin â nhw?
Gwnaf. Wel, bydd yr Aelodau, rwy'n gobeithio, yn deall os yw'n ymddangos fy mod i'n dewis fy ngeiriau'n ofalus, neu'n ymddangos yn ormodol fel cyfreithiwr yn fy atebion, nid yw hynny oherwydd fy mod i'n amharod i ateb; mae oherwydd bod hwn yn gyfnod anghyffredin iawn, ac yn gyfnod ofnadwy. Mae'n foment yn ein bywyd gwleidyddol sy'n llawn dolur a dicter. Mae pobl yn galaru a'r peth olaf yr wyf i eisiau ei wneud yw gwneud pethau'n waeth. Ond rwy'n deall yr angen am gwestiynau a chraffu, ac nid oes gennyf i unrhyw anhawster â hynny.
Gadewch i mi nodi yn y ffordd orau y gallaf beth yw fy esboniad am yr anghysondebau tybiedig, fel y mae pobl yn eu gweld, rhwng yr ateb ym mis Tachwedd 2014 a'r atebion yr wyf i wedi eu rhoi ers hynny ar faterion bwlio. Rwy'n ymwybodol o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud yn y wasg. Y cwbl y gallaf ei ddweud am y sylwadau hynny yw, yn eu cyswllt nhw, ni chyflwynwyd unrhyw gyhuddiad penodol o fwlio i mi erioed, yn ffurfiol nac yn anffurfiol, ni roddwyd tystiolaeth i mi, ac ni ddefnyddiwyd y gair 'bwlio' yn y ffordd honno erioed ychwaith. Ond os ydych chi eisiau i mi fod yn eglur ynghylch beth oedd y materion, gallaf ddweud fod pobl weithiau'n anhapus gyda'r ffordd y digwyddodd pethau. A oedd blaenoriaethau a oedd yn cystadlu a chwynion o'r math hwnnw? Wrth gwrs. A oedd pobl weithiau'n teimlo bod pobl eraill yn cael eu ffafrio'n fwy? Wrth gwrs. Mae hynny'n digwydd mewn unrhyw sefydliad. Ac ym myd gwleidyddiaeth, lle caiff y materion hyn eu teimlo'n fwy dwys nag yn y rhan fwyaf o fannau eraill hyd yn oed, ac y mae pobl yn frwd iawn ynghylch yr hyn y maen nhw'n ei gredu, yna dyna fydd y sefyllfa. Mae'r syniad o gystadleuaeth wrth wraidd ein democratiaeth. Bydd tensiwn bob amser, a bydd pawb yn y Siambr hon yn cydnabod hynny, yn enwedig fy nghyd-arweinwyr y partïon. Byddaf yn parhau i ymdrin â'r tensiynau hynny mewn ffordd mor deg â phosibl, ac, er gwaethaf ein gwahaniaethau gwleidyddol yma, rwy'n gobeithio pan fydd pobl yn edrych ar fy hanes gwleidyddol y byddant yn gweld rhywun sydd bob amser wedi ceisio bod yn deg. Ond rwy'n ailadrodd y pwynt a'r cynnig a wnes yn ystod y pythefnos diwethaf, os bydd pobl yn credu y bu achosion o fwlio, naill ai'n hanesyddol neu'n gyfredol, yna mae fy nrws i yn agored. Os yw'n well ganddyn nhw beidio â dod ataf i, gallant, wrth gwrs, fynd at yr Ysgrifennydd Parhaol.
Prif Weinidog, dyma eich cyfle i egluro'r sefyllfa. Mae'n edrych fel pe byddech chi wedi rhoi dau ateb sy'n gwrthddweud ei gilydd: rydych chi'n dweud na dderbyniwyd unrhyw honiadau, ond hefyd bod materion wedi codi a'ch bod chi wedi ymdrin â nhw. Gofynnaf i chi eto: beth oedd y materion a godwyd gyda chi, a sut y gwnaethoch chi ymdrin â nhw?
Wel, weithiau, fel y dywedais, roedd pobl yn anhapus â'r ffordd y digwyddodd pethau, roedd pobl yn teimlo bod pobl eraill yn cael eu ffafrio'n fwy, ond mae hynny'n digwydd mewn unrhyw sefydliad. Ymdriniais â nhw wrth iddyn nhw godi. Pan fyddwch chi'n ymdrin â Chabinet, mae gennych chi bobl sy'n dalentog iawn, mae gennych chi bobl sy'n teimlo'n gryf iawn am yr hyn y maen nhw'n ei hyrwyddo, ac, wrth gwrs, mae'n gwbl amhosibl datrys gwahaniaethau pan eu bod yn codi. Os gofynnwch chi i mi y cwestiwn, 'A yw'n wir fod Cabinetau bob amser yn gytûn, lle mae pawb yn cytuno bob amser?' Nac ydynt, a byddai'n afrealistig dweud yn wahanol. Pan gododd y materion hynny, ymdriniais â nhw.
Nid ydych chi'n ateb y cwestiwn, Prif Weinidog, mae arna i ofn. Roedd honiadau penodol am fwlio, yr ydych chi wedi eu gwadu, ac eto rydych chi wedi dweud bod materion yn bodoli a'ch bod wedi ymdrin â nhw. Nawr, nid ydych chi wedi esbonio i ni beth oedd y materion hynny, sut yr ymdriniwyd â nhw na pha un a oedd, er enghraifft, adroddiadau wedi eu llunio. A wnewch chi roi'r eglurder y mae'r Cynulliad hwn yn ei haeddu i ni nawr, gan esbonio i ni pa faterion a godwyd gyda chi yn ôl yn 2014 a beth union wnaethoch chi i ymdrin â'r materion hynny? Os nad oeddent yn faterion o fwlio, mae hynny'n ddigon teg. Beth oedden nhw felly? Eglurwch hyn nawr os gwelwch yn dda.
Roedden nhw'n faterion o flaenoriaethau a oedd yn cystadlu, o bobl yn teimlo bod rhai pobl yn cael mwy o wrandawiad nag eraill a phobl yn teimlo eu bod nhw eisiau eich gweld chi fel y Prif Weinidog i esbonio eu sefyllfa. Mae'r rhain i gyd yn brosesau Cabinet a Llywodraeth arferol. Byddai'n rhyfedd iawn pe byddai unrhyw Gabinet ar waith lle nad oedd neb yn anghytuno byth. Byddai'n rhyfedd iawn pe byddai Cabinet ar waith lle'r oedd pobl mewn sefyllfa lle nad oeddent yn teimlo eu bod eisiau lleisio eu barn mewn ffordd benodol, ac, fel Prif Weinidog, dyna'r ffordd yr ymdriniais i â Llywodraethu bob amser. Os edrychwn ni ar yr hyn a wnaethom, fel Llywodraeth, cyflawnwyd ein holl addewidion maniffesto gennym yn y blynyddoedd hyd at 2016 ac rydym ni'n parhau i'w cyflawni nawr. Felly, oes, mae tensiynau mewn unrhyw Gabinet bob amser ac yn sicr bydd unrhyw arweinydd plaid yn cydnabod hynny. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw nad yw'r tensiynau hynny yn rhwystro llywodraethu da, ac nid ydynt wedi rhwystro llywodraethu da, fel y mae pobl Cymru wedi ei weld.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd.
Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar am y ffordd yr ydych chi wedi ymgysylltu â'r cwestiynau hyd yn hyn y prynhawn yma—yn gwbl wahanol i'r ffordd y gwnaethoch chi ymgysylltu ddydd Mercher diwethaf gyda'r cwestiwn a ofynnais i chi yn y cwestiynau amserol. Ond ceir y mater hwn lle mae dau naratif yn cyd-redeg yn y fan yma. Ceir y naratif yr ydych chi'n ei gydnabod—ac, unwaith eto, roeddwn i'n ddiolchgar eich bod wedi cydnabod yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf—y codwyd materion gyda chi yn ôl ym mis Tachwedd 2014, a'ch bod chi wedi ymdrin â'r materion hynny. Ac yna ceir mater y cwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Darren Millar a'r gwahaniaeth yn yr ateb a ddywedodd na fu unrhyw broblemau ar yr adeg honno. Nawr, a allwch chi ddeall sut gall pobl gael eu drysu gan y ddau ateb hynny? A godwyd materion o fwlio yn benodol gyda chi ym mis Hydref/Tachwedd 2014, ac a wnaethoch chi ymdrin â nhw?
Fel yr wyf i wedi dweud eisoes—wel, mi wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais, dim ond i'w wneud yn eglur eto. Dywedais fy mod i'n ymwybodol o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud yn y wasg. Y cwbl y gallaf i ei ddweud am y sylwadau hynny yw na chyflwynwyd unrhyw gyhuddiad penodol o fwlio i mi erioed o ran y sylwadau hynny, yn ffurfiol nac yn anffurfiol. Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth i mi, ac ni ddefnyddiwyd y gair 'bwlio' erioed yn y ffordd honno. Ni allaf fynd y tu hwnt i'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud, unwaith eto, dim ond i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach.
Mae gen i ddiffyg dealltwriaeth o hyd o ba mor anodd yw hi i ateb y cwestiwn hwn. Rwyf wedi gofyn yn eithaf rhesymol i chi: a gyflwynwyd honiadau o fwlio i chi? Oherwydd mae'n ymddangos mai dyna'r haeriad a wnaed gan ddau ffigwr blaenllaw o'ch Llywodraeth ar y pryd—ac eraill, dylwn ychwanegu. Nid yw'n afresymol i ni ofyn y cwestiynau i chi fel Prif Weinidog, oherwydd mae'r cyhuddiadau yn cael eu cyfeirio at eich swyddfa chi ac, yn wir, eich swyddogaeth fel Prif Weinidog. Ac felly, a allwch chi fod yn gwbl eglur o ran cadarnhau a—ac nid wyf yn arbennig—? Rwy'n sylweddoli bod gennych chi'r nodiadau ysgrifenedig o'ch blaen, ond rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cofio pe byddai honiadau penodol o fwlio wedi eu gwneud a'u cyflwyno iddyn nhw ymdrin â nhw. Felly, y cwbl rwy'n ei wneud yw ceisio cael y mater yn gwbl eglur yn fy meddwl fy hun: a gyflwynwyd honiadau yn ymwneud â bwlio i chi yn ystod y cyfnod amser a nodwyd gan eich cyn uwch-gynghorydd arbennig, a chan eich cyn-Weinidog y Cabinet, Leighton Andrews?
Wel, rwy'n credu fy mod i newydd ateb y cwestiwn. Nid oedd unrhyw gyhuddiadau penodol o fwlio. Ni chawsant eu cyflwyno i mi yn ffurfiol nac yn anffurfiol ganddyn nhw. Ni ddefnyddiwyd y gair erioed yn y ffordd honno. Nid wyf yn credu y gallaf i fynd y tu hwnt i'r ateb yr wyf i wedi ei roi.
Iawn. Bydd cynnig yn cael ei roi gerbron y Cynulliad yfory—yr wythnos nesaf, mae'n ddrwg gen i—i gael ymchwiliad i'r mater hwn. Bydd pobl wedi gwrando ar yr atebion yr ydych chi wedi eu rhoi. Rwy'n credu bod y ddau gyfle a roddais i chi yn eithaf syml—atebion 'Do' neu 'Naddo', fel y cyfryw. Fe wnaethoch ddewis peidio â rhoi'r ateb 'Do' neu 'Naddo'. A yw'n wir y byddwch chi'n cefnogi'r cynnig a fydd yn dod gerbron y Cynulliad yr wythnos nesaf i ganiatáu craffu manwl ar y mater penodol hwn? Mae diddordeb cyhoeddus enfawr yn y mater penodol hwn. Ceir straeon a naratifau sy'n gwrthdaro yma. Nid yw'n afresymol i fod eisiau mynd at wraidd y mater, ac os na allwn ni gael at ei wraidd yn y sefydliad penodol hwn, yna beth ar y ddaear yw diben y sefydliad hwn? Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog: a fyddwch chi'n cefnogi'r cynnig hwnnw a ddaw gerbron y Cynulliad ddydd Mercher nesaf?
Ceir nifer o ffyrdd y gellir ymdrin â'r mater hwn. Rydym ni'n cadw ein safbwynt yn ôl o ran y bleidlais yr wythnos nesaf tan y byddwn ni wedi astudio'n ofalus, wrth gwrs, ehangder cylch gorchwyl y cynnig hwnnw. Ond serch hynny, rwy'n derbyn bod hwn yn fater y bydd angen craffu arno ymhellach. Nid wyf i'n ofni'r craffu hwnnw, a chredaf ei fod yn gwestiwn o ddarganfod beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud y gwaith craffu hwnnw, ac nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei ofni.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn teimlo bod ganddo ddyletswydd o onestrwydd i'r Cynulliad o ran y mater hwn, ond mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i fynd dim pellach yn ei gylch heddiw ac y bydd yn rhaid aros am y ddadl yr wythnos nesaf i weld a allwn ni wneud cynnydd, felly hoffwn i droi at fater arall.
Dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar y byddai'n hoffi gweld tollau teithwyr awyr yn cael eu datganoli i Gymru fel y gallai eu diddymu ar gyfer teithiau awyr hir, a chroesawaf y Prif Weinidog i rengoedd y torwyr trethi a'r diddymwyr trethi yn y Cynulliad. Mae'n newid o'r holl drethi eraill y mae ef eisiau eu cyflwyno. Ond mae hwn, wrth gwrs, yn fodd o osgoi trethi y mae e'n gefnogol iddo mewn ffordd, gan y bydd yn rhoi mantais fach ond arwyddocaol i feysydd awyr Cymru dros feysydd awyr ar ochr arall y ffin yn Lloegr y bydd tollau teithwyr awyr yn dal i fod yn berthnasol iddyn nhw. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio i mi sut y gall gysoni ei farn ar dollau teithwyr awyr â'i safbwyntiau eraill na ddylid defnyddio'r system dreth ar gyfer cystadleuaeth dreth o fewn y Deyrnas Unedig neu, yn wir, â gwledydd eraill?
Oherwydd bod cystadleuaeth o ran trethi eisoes. Mae'r Alban eisoes yn rheoli tollau teithwyr awyr, ac mae elfen o ddatganoli tollau teithwyr awyr yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'n gwneud synnwyr i mi, felly, y gwrthodir yr un manteision i Gymru â'r rheini mewn mannau eraill yn y DU. Rydym ni wedi cyflwyno tystiolaeth i Lywodraeth y DU sy'n ei gwneud yn eglur nad yw hyn yn unrhyw fygythiad i Fryste; nid ydym ni'n ei gweld hi felly. Mae hyn yn ymwneud â datblygu, yn benodol, teithiau awyr pell o Gaerdydd, ac rydym ni'n credu bod Caerdydd mewn sefyllfa dda iawn i allu gwneud hynny a, thrwy hynny, datblygu meysydd awyr eraill, meysydd awyr rhanbarthol ledled Cymru, sy'n gallu cysylltu â Chaerdydd fel canolfan. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y dystiolaeth honno, rydym ni'n deall, heb gynnig unrhyw dystiolaeth ei hunan ar unrhyw adeg.
Rwy'n gobeithio nad yw'r Prif Weinidog yn fy nghamddeall. Rwyf yn sicr o blaid yr hyn y mae'n ei gynnig ac yn sicr o blaid datganoli trethi i Gymru fel y gallwn eu torri neu eu diddymu ac yna rhoi mantais i ni dros rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sy'n gwneud iawn am yr anfanteision hanesyddol y mae'n rhaid i ni ymladd yn eu herbyn.
Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi yn y fan yma yw'r anghysonderau o ran safbwynt y Blaid Lafur yn gyffredinol. Diben y tollau teithwyr awyr, pan gawsant eu cyflwyno, oedd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac felly nid yw eu diddymu wir yn ymddangos fel pe byddai'n cyd-fynd â diddordebau eraill y Blaid Lafur o ran diogelu'r amgylchedd. Felly, sut mae diddymu'r tollau teithwyr awyr ar deithiau awyr pell—sut gellir ei gysoni â safbwyntiau'r Blaid Lafur ar ynni gwyrdd a'r angen i leihau allyriadau carbon?
Mae'n eithaf syml. Ceir nifer fawr iawn o bobl, nid yn unig o dde Cymru ond o dde-orllewin Lloegr, sy'n teithio i Heathrow ar hyn o bryd i hedfan ar deithiau awyr pell. Pe byddent yn teithio pellter byrrach, byddai eu hôl-troed carbon eu hunain yn llai. Felly, mae'n gwneud synnwyr felly i roi pobl mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw'n gyrru mor bell, lle nad ydyn nhw'n cynyddu eu hôl-troed carbon eu hunain trwy roi'r dewis iddynt o allu hedfan yn nes at gartref.
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod hynna'n dwyllresymu pur. Ceir agwedd arall ar hyn hefyd y mae'n werth ei ystyried, oherwydd bydd wedi gweld bod Monsieur Barnier, yn ei ddatganiad diweddaraf ar berthynas fasnachu Prydain gydag Ewrop yn y dyfodol, wedi dweud diwrnod neu ddau yn ôl:
Ni fydd unrhyw bartneriaeth uchelgeisiol heb dir cyffredin o ran cystadleuaeth deg, cymorth gwladwriaethol, dadlwytho treth.
Wel, wrth gwrs, dadlwytho treth yw'r ffordd y mae gwleidyddion Ffrainc yn arbennig yn cyfeirio at gystadleuaeth treth rhwng gwledydd, ac maen nhw'n ei wrthwynebu'n fawr. Tuedd gyfan yr Undeb Ewropeaidd yw cysoni trethi fel nad oes unrhyw bosibilrwydd o wneud yr hyn y mae'r Gwyddelod wedi ei wneud o ran treth gorfforaeth, gan roi mantais sylweddol iddynt, sydd wedi bod o fudd mawr i'w heconomi.
Felly, onid yw'r Prif Weinidog yn gweld bod gadael yr UE yn rhoi'r rhyddid y gallem ni yng Nghymru ei ddefnyddio, pe byddem yn ei ddefnyddio gyda dychymyg, i gynyddu allbwn economi Cymru a'r sail drethi a rhoi mwy o arian i Lywodraeth Cymru felly i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus da eraill yr ydym ni eu heisiau?
Wel, mae honno'n agwedd naïf oherwydd, fel y mae e'n gwybod yn iawn, os ydym ni eisiau allforio i farchnadoedd a bod y marchnadoedd hynny'n teimlo bod gennym ni gystadleuaeth dreth annheg, byddant yn gorfodi tariffau yn ein herbyn. Felly nid yw fel pe byddai gan y DU law rydd yn hyn i gyd. Mae'r DU yn wlad o faint canolig, ac nid yw mewn sefyllfa i fynnu telerau masnach i wledydd eraill.
Fe'i cyfeiriaf at yr hyn a ddywedodd Aston Martin dim ond yr wythnos diwethaf—y byddai Brexit caled yn achosi iddynt roi'r gorau i weithgynhyrchu ceir. Nawr, nid fy ngeiriau i yw'r rhain; dyma eiriau cwmni a fydd yn gyflogwr sylweddol yng Nghymru yn fuan, ac rwy'n tybio y byddwn ni'n gweld mwy o hynny, a dyna pam mae angen i ni ddarganfod ble mae Llywodraeth y DU yn sefyll, ac mae angen i ni weld cynllun Llywodraeth y DU ac mae angen i hynny fod yn fuan, oherwydd os nad ydym ni mewn sefyllfa, yn fy marn i, lle gall busnesau weld bod ffordd ymlaen erbyn y flwyddyn newydd, yna byddwn ni'n dechrau gweld, mae arna i ofn, cyhoeddiadau a fydd yn negyddol cyn belled ag y mae economi Prydain yn y cwestiwn.