Dementia

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr felly, yn sicr felly. Rwy'n meddwl ei bod yr arloesedd a ddangoswyd yn anhygoel, mewn ffyrdd na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl amdanynt, i helpu pobl â dementia. Mae'n hynod bwysig hefyd—nid yw'n ymadrodd efallai y byddwn i'n ei ddefnyddio yn gyffredinol—bod dealltwriaeth rhyng-genhedlaeth yn cael ei hybu, lle mae pobl ifanc yn deall beth yw effeithiau dementia, sut y gallant helpu pobl â dementia, ac, wrth gwrs, gallu deall yr hyn y mae teuluoedd ac unigolion yn ei wynebu fel heriau os yw rhywun yn cael diagnosis o ddementia. Rwy'n meddwl ei fod yn syniad gwych, yn gysyniad gwych, ac rwy'n llongyfarch yr ysgol yn fawr iawn.