Dementia

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 1:36, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, yn ogystal â Chymru yn heneiddio fel cenedl, mae'r tueddiadau yn dra gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae gan y Cymoedd, er enghraifft, dueddiad heneiddio demograffig llawer mwy na'r wlad yn ei chyfanrwydd. A ydych chi'n ffyddiog, Prif Weinidog, bod ein darpariaeth o wasanaethau dementia wedi ei datganoli'n ddigonol, a hefyd bod yr adnoddau ar ei chyfer wedi eu targedu'n ddigonol at yr ardaloedd hynny lle mae'r duedd i heneiddio yn fwyaf difrifol?