Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Fel yr wyf i wedi dweud eisoes—wel, mi wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais, dim ond i'w wneud yn eglur eto. Dywedais fy mod i'n ymwybodol o'r sylwadau sydd wedi  eu gwneud yn y wasg. Y cwbl y gallaf i ei ddweud am y sylwadau hynny yw na chyflwynwyd unrhyw gyhuddiad penodol o fwlio i mi erioed o ran y sylwadau hynny, yn ffurfiol nac yn anffurfiol. Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth i mi, ac ni ddefnyddiwyd y gair 'bwlio' erioed yn y ffordd honno. Ni allaf fynd y tu hwnt i'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud, unwaith eto, dim ond i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach.