Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Wel, mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, sy'n gorfod cael ei ystyried fel rhan o'r ymgynghori sydd wedi cymryd lle. A gaf i ddweud y bydd y cynllun ei hunan yn cael ei adeiladu ar sylfaen o gydnabod y ffaith bod yna hawliau gyda phobl â dementia? Ac felly, ym mha ffordd y gallwn ni weithredu'r hawliau hynny? A bydd hwn yn rhan o'r trafod—mae hwn wedi bod yn rhan o'r trafod, rwy'n siŵr, sydd wedi digwydd lan at nawr, a bydd hwn yn rhan o'r trafod ynglŷn â'r cynllun ei hunan. A gaf i ddweud hefyd y bydd y cynllun ei hunan yn cael ei ystyried hefyd gan grwp gweithredu er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gweithio yn y ffordd y dylai fe?