Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, yn ôl Iechyd yng Nghymru, mae dementia yn effeithio ar dros 42,000 o bobl dim ond yng Nghymru, ac amcangyfrifir, mewn ychydig flynyddoedd yn unig, gallai hyn gynyddu gan o leiaf traean. Mae'n hanfodol felly bod Cymru'n dod yn genedl ystyriol o ddementia cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr ofnadwy hwn, a'u teuluoedd, yn cael eu cefnogi ar bob cam. Prif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch dementia a sut i leihau'r perygl o ddatblygu'r cyflwr dinistriol hwn?