Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Wel, mae'r angen i sicrhau y gall pobl aros mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl wrth wraidd ein dull o weithredu. Mae hynny'n golygu gweithio gyda sefydliadau i hyrwyddo amgylcheddau ystyriol o ddementia. Rydym ni wedi gweld enghraifft gan fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, o sut y gellir gwneud hynny gydag ysgolion. Ac mae'n aruthrol o bwysig bod pobl yn deall nad yw dementia yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn yr un ffordd ac i'r un graddau. Ac felly rydym ni'n gwybod y bydd anghenion pobl yn newid dros amser, ac mae'n aruthrol o bwysig bod pobl yn deall hynny. Ac yn rhan o hyrwyddo Cymru ystyriol o ddementia, mae cynyddu dealltwriaeth pobl o'r cyflwr yn amlwg yn rhan bwysig o hynny.